Ysgol y Gymraeg yn croesawu academyddion o Ewrop
2 Mehefin 2023
Mae tri academydd Ewropeaidd wedi ymweld ag Ysgol y Gymraeg yn ddiweddar i drafod y Gymraeg.
Ym mis Mai, treuliodd Deborah Arbes o’r Almaen bythefnos yn yr ysgol i drafod diddordebau cyffredin yn y Gymraeg a’i phatrymau gramadegol â’i staff academaidd.
Mae Deborah yn fyfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Bremen ac mae ei gwaith yn canolbwyntio ar amrywio gramadegol mewn tri rhanbarth gwahanol sef de a gogledd Cymru a Phatagonia. Mae’r gwaith hwn yn adlais o’r gwaith ymchwil y mae Dr Iwan Wyn Rees o Ysgol y Gymraeg yn ei wneud. Mae gwaith Dr Rees yn canolbwyntio ar batrymau gramadegol a systemau rhifol yng Nghymru ac ar ffurfiant tafodieithoedd newydd yn y Wladfa ym Mhatagonia.
Daw’r ymweliad yn sgil partneriaeth swyddogol sy’n bodoli rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bremen yn yr Almaen sef Cynghrair Bremen-Caerdydd.
Roedd y bartneriaeth hefyd wedi galluogi i ddau academydd arall o Ewrop ymweld â’r ysgol ar gyfer symposiwm arbennig. Daeth Yr Athro Yoad Winter, sy’n gweithio ym Mhrifysgol Utrecht, a Dr Silva Nurmio, sy’n gweithio ym Mhrifysgol Helsinki, i gyfrannu i’r symposiwm a oedd yn trafod pynciau rhifol cyfoes a rôl y Gymraeg ym maes teipoleg ieithyddol.
Dywedodd Dr Rees: “Mae yna rywfaint o symbolaeth i'r ymweliadau hyn. Nid mater o gael criw dethol i drafod cymhlethdodau gramadegol yn unig ydi o. Mae'r cydweithio – a'r croeso Cymreig ’dan ni'n ei roi – yn ffordd o ddangos bod diddordeb yma yng Nghymru yng ngwaith ymchwil ein cyd-Ewropeaid sy'n ymwneud â'r Gymraeg mewn modd cymharol.
"Yn yr un modd, dwi'n gobeithio bod hyn yn dangos i'n myfyrwyr ni fod y Gymraeg a'i siaradwyr yn dal i fod ar y map Ewropeaidd – ac, yn wir, ar y map rhyngwladol.”
Bydd cynhadledd Ewropeaidd arall, wedi ei chefnogi eto gan Gynghrair Bremen-Caerdydd, yn cael ei chynnal ym mis Mehefin, ond y tro hwn, myfyrwyr PhD fydd yn cael y cyfle i drafod eu gwaith nhw. Cynhelir y gynhadledd ‘Triangulation II’ yn ardal Bremen a bydd myfyrwyr ymchwil o ogledd-orllewin yr Almaen, Malta, Trento, Helsinki a Chaerdydd yn dod ynghyd i drafod eu prosiectau sosioieithyddol.
Bydd 5 o fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd, pob un yn gysylltiedig ag Ysgol y Gymraeg, yn mynychu’r gynhadledd, sef Kaisa Pankakoski, Jack Pulman-Slater, Katharine Young, Lynne Davies ac Elin Arfon. Cynhelir y gynhadledd rhwng 5 a 6 Mehefin 2023.