Llywodraethiant y DG ar ôl Brexit: Gallwch gofrestru nawr ar gyfer gweithdy Lerpwl
1 Mehefin 2023
Gall myfyrwyr ac ymchwilwyr nawr gofrestru i fynychu gweithdy dylanwadol ar Lywodraethu Cyfansoddiad Tiriogaethol y DG ar ôl Brexit, sy'n cynnwys academyddion blaenllaw o Gymru, y DG ac Ewrop.
Cynhelir y gweithdy yn Lerpwl (ac ar-lein) ar 6 Mehefin 2023 gyda chyllid gan Ysgol y Gyfraith a Chyfiawnder Cymdeithasol, Prifysgol Lerpwl, a Chanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.
Ni fu adolygiad beirniadol o drefniadau llywodraethu mewnol y DG erioed yn fwy amserol. Mae Brexit wedi rhoi brys newydd i ddadleuon am yr hyn y mae llywodraethu yn ei olygu a sut y dylid ei strwythuro dan gyfansoddiad sydd bellach yn cael ei ddiffinio fwyfwy gan ei ddosbarthiad tiriogaethol o bwerau deddfwriaethol, gweithredol a gweinyddol.
Er bod y DG a’r UE wedi dod i gytundeb cyffredinol – os nad yn gwbl gyflawn eto – ar fframwaith newydd i lywodraethu eu perthynas yn y dyfodol, mae llywodraethau’r DG yn ymddangos yn gynyddol groes i lywodraethu cyfansoddiad tiriogaethol y DG – ar y gofod priodol ar gyfer hunan-lywodraethu effeithiol, neu'r mecanweithiau ar gyfer llywodraethu ar y cyd.
Bydd y gweithdy hwn yn dod ag ystod eang o safbwyntiau ynghyd i fyfyrio ar brofiadau llywodraethu tiriogaethol ar ôl Brexit.
Mae'r rhaglen, crynodebau a manylion cofrestru ar gael yn y ddolen hon.