Aelod o staff Ysgol y Gymraeg yn rhan o ŵyl gerddoriaeth Focus Wales
1 Mehefin 2023
Mae un o staff Ysgol y Gymraeg wedi cymryd rhan mewn gwaith ymchwil mewn gŵyl gerddoriaeth ddiweddar yn Wrecsam.
Mae gŵyl gerddoriaeth Focus Wales yn bartner mewn prosiect ymchwil arbennig rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Waikato sy’n edrych ar y cysylltiadau rhwng cerddoriaeth Gymraeg a cherddoriaeth pync Māori. Roedd nifer o staff y brifysgol yn gwneud gwaith ymchwil yn ystod yr ŵyl. Roedd Dr Elen Ifan yno o Ysgol y Gymraeg, ac isod, mae hi wedi sôn am ei phrofiadau o fod yn yr ŵyl.
Mae Wrecsam wedi dod yn enwog yn fyd-eang dros y blynyddoedd diwethaf yn dilyn llwyddiannau’r tîm pêl-droed, gydag ymwelwyr o bedwar ban yn galw am beint (a llun gyda cherflun Deadpool) yn y Turf. Ond nid y Cae Ras oedd yn galw rhwng y 4ydd a’r 6ed o Fai, ond gŵyl gerddoriaeth Focus Wales. Ar draws 20 lleoliad gwahanol roedd yr ŵyl yn rhoi llwyfan i berfformwyr o Gymru a thu hwnt. Yn eu mysg roedd Half/Time, y band ôl-pync o Aotearoa (Seland Newydd) sy’n defnyddio te reo Māori (yr iaith Māori) yn eu caneuon, a minnau, Dr Joe O’Connell o’r Ysgol Cerddoriaeth, a Catrin Jones o’r Academi Gymraeg. Doedden ni’n tri ddim yno i berfformio, ond yn hytrach yn cynnal cyfweliadau drwy gydol y penwythnos gyda pherfformwyr fel rhan o brosiect ymchwil arbennig ar y cyd rhwng Prifysgolion Caerdydd a Waikato (ac yn dal ambell i gig, wrth reswm!)
Bwriad y prosiect yw i gael hyd i bwyntiau cyswllt rhwng y profiad Māori a’r profiad Cymreig yng nghyd-destun cerddoriaeth ‘grassroots’ - neu gerddoriaeth sydd y tu hwnt i’r brif ffrwd. Byddwn ni’n archwilio cwestiynau o hunaniaeth, perthyn, creadigrwydd ac iaith drwy waith y cerddorion hyn, gan ddechrau gyda chyfweliadau gydag unigolion yn ystod gŵyl Focus Wales.
Roedd y penwythnos yn argoeli’n un prysur o’r cychwyn cyntaf, wrth i mi osod larwm cynnar i wneud yn siŵr fy mod i ar ddihun ar gyfer siarad gyda Gwenllian Grigg a Dylan Ebenezer ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru. Mae’r prosiect wedi cael dipyn o sylw gan y cyfryngau, gan gynnwys erthygl yn y Guardian, ac mae hi wedi bod yn wych gweld ymateb y cyhoedd i’r prosiect.
Ras i orffen pacio a dal y trên wedi’r sgwrs, cyn ei gwneud hi’n syth draw i gyfarfod â Half/Time a’u gwylio’n gwneud eu gig cyntaf yng Nghymru: sesiwn i Glyndŵr TV yn stiwdios Prifysgol Glyndŵr. Wedi eu gweld ar Zoom mewn cyfarfodydd gydag oriau digon anghymdeithasol (mae 12 awr o wahaniaeth amser yn heriol i drefnu cyfarfod!), a chlywed gymaint am eu cerddoriaeth, roedd hi’n brofiad arbennig eu gweld yn perfformio. Mae’r gerddoriaeth yn wleidyddol, yn heriol, ac yn hynod o bwerus, ac roedd pawb yn y stiwdio bnawn Iau wedi’u llorio gan y band.
Ddydd Gwener a dydd Sadwrn, dechreuon ni o ddifri ar y gwaith cyfweld, ac er ei bod hi’n waith caled ar adegau pan oedd trefniadau’n newid funud olaf neu gyfrannydd yn diflannu i wneud sound check, fe gasglon ni lawer o ddata diddorol iawn drwy’r cyfweliadau. Y gwaith nawr fydd i drawsgrifio’r cyfweliadau er mwyn dadansoddi’r data, gyda’r canlyniadau yn cael eu cyflwyno ar ffurf allbwn academaidd o ryw fath – papur cynhadledd, neu erthygl – maes o law.
Rhan arall o’r prosiect yw @prosiectPuutahitanga, sef cyfrif Instagram neilltuol i’r prosiect sy’n fodd o gofnodi gweithgareddau ac ymatebion y rheiny sy’n rhan o’r prosiect mewn modd cydweithredol a chreadigol. Cawson ni hwyl yn meddwl am air y dydd bob dydd, yn cofnodi’n syniadau ar gefn bag papur, sydd wedi bod yn ddechrau diddorol i feddwl am gysyniadau pwysig i ni fel ymchwilwyr. Ac roedd ‘yma o hyd’ yn gân y buon ni’n sôn amdani – felly ar y trên ar y ffordd adre mi sgwennais i bwt bychan yn deillio o’n sgyrsiau anffurfiol: ‘Mae te ao Māori / Yma o hyd’.
Yn ystod yr wythnos ganlynol, roedd gweithgareddau’r prosiect yn parhau, gyda mwy o gigs gan Half/Time ar draws Cymru, ynghyd â sgwrs banel lwyddiannus wedi’i threfnu gan yr Academi Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ond mae’n fwriad gennym ni fel tîm y prosiect i ehangu’r gwaith ymhellach hefyd: mae cynlluniau ar y gweill i ymweld â Kirikiriroa (Hamilton) yn Aotearoa yn yr Hydref, i gynnal gweithdai, cyfarfod gyda mwy o artistiaid cerddorol sy’n defnyddio te reo Māori, a pharhau gyda’r gwaith ymchwil cyffrous a ddechreuwyd yn Wrecsam ddechrau Mai.