Ewch i’r prif gynnwys

Enillydd Nobel yn lansio canolfan i greu rhagoriaeth ym myd diwydiant

1 Mehefin 2023

O'r Chwith i'r Dde: Yr Athro Donald J. Wuebbles, cyd-enillydd, Gwobr Heddwch Nobel 2007; Yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd a’r Dirprwy Is-Ganghellor yr Athro Rudolf Allemann, Pennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.
O'r Chwith i'r Dde: Yr Athro Donald J. Wuebbles, cyd-enillydd, Gwobr Heddwch Nobel 2007; Yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd a’r Dirprwy Is-Ganghellor yr Athro Rudolf Allemann, Pennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.

Mae'r Athro Donald J. Wuebbles, gwyddonydd yr hinsawdd o'r Unol Daleithiau a enillodd Wobr Heddwch Nobel, wedi lansio canolfan ddiweddaraf y DU fydd yn dod o hyd i atebion ym maes diwydiant Sero Net.

Ac yntau’n gyn-ymgynghorydd y Tŷ Gwyn ac yn gyd-enillydd gwobr 2007, agorodd yr Athro Wuebbles y Ganolfan Ymchwil Drosi (TRH)yn swyddogol. Bydd y Ganolfan yn dod â byd diwydiant ac arbenigwyr ynghyd i ddatrys heriau byd-eang cymhleth.

Maen nhw’n gweithio ar draws sectorau, gan gynnwys ynni, uwch-ddeunyddiau, tanwyddau, trafnidiaeth, cyfathrebu a gofal iechyd, gan greu technolegau newydd a dod o hyd i gyfeiriadau ar gyfer ymchwil arloesol.

Wrth annerch y dorf yn nigwyddiad lansio’r Ganolfan, pwysleisiodd yr arbenigwr ym maes gwyddoniaeth atmosfferig ym Mhrifysgol Illinois rôl y Ganolfan Ymchwil Drosi wrth roi atebion gwyddonol byd-eang o ran newidiadau yn yr hinsawdd.

“Pont arbennig yw’r Ganolfan i fyd diwydiant allu cyrchu ymchwil flaenllaw a all helpu’r blaned i gyrraedd Sero Net,” meddai’r Athro Wuebbles.

“A hithau’n ganolbwynt ar gyfer ymchwil, arloesi ac addysg, mae gan y Ganolfan ecosystem gynaliadwy sy’n helpu Prifysgol Caerdydd i adeiladu timau ymchwil a datblygu newydd, gan ehangu ei sylfaen ymchwil ym maes technoleg a chreu swyddi y mae galw mawr amdanyn nhw.”

Ymunodd yr Athro Syr Adrian Smith, Llywydd y Gymdeithas Frenhinol – sefydliad gwyddonol hynaf y byd – â’r digwyddiad gan ganmol y Ganolfan am ei gwaith.

“Credwn y dylai pob llywodraeth ddatblygu map trywydd sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan nodi’r technolegau sydd eu hangen i gyrraedd y nod o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr nes cyrraedd sero net. Yr hyn sydd ei angen yw dull triphlyg: defnyddio’r technolegau hynny sy’n barod nawr, datblygu ac arddangos yr hyn sydd ei angen ar y rheini nad ydyn nhw’n barod, yn ogystal â chreu atebion newydd yn sgil ymchwil i fynd i’r afael â her datgarboneiddio.

“Dyma’r union beth y mae’r Ganolfan Ymchwil Drosi yn ei wneud, gan ddod â disgyblaethau gwahanol at ei gilydd at ddibenion datblygu ac ymchwil yn ogystal â gweithio gyda byd diwydiant i droi’r rhain yn dechnoleg i’w defnyddio. Cymeradwyaf yn fawr y Ganolfan Ymchwil Drosi am ei gwaith ym maes technolegau lled-ddargludyddion a chatalysis yn ogystal â’r arloesi ehangach ym maes sero net.”

Diwydiant, academaidd, llywodraeth a’r gymdeithas sifil

Watch the TRH Launch Event on YouTube.

Wrth ddiolch i’r partneriaid ym myd diwydiant a chyllidwyr y llywodraeth, dyma a ddywedodd Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan: “Mae’r Ganolfan yn dyst i’n penderfyniad i feithrin partneriaethau sy’n denu buddsoddiad, yn creu ffyniant ac yn cyfrannu at Sero Net drwy ddod â byd diwydiant, y byd academaidd, byd llywodraeth a’r gymdeithas sifil ynghyd.

“Roedd ein harbenigedd a’n profiad wrth gydweithio yn ffactor mawr wrth gyllido’r Ganolfan, gan ddenu incwm gan fyd diwydiant a sawl ffynhonnell y llywodraeth, gan gynnwys Cronfa Buddsoddi Partneriaethau Ymchwil y DU, Llywodraeth Cymru, yr EPSRC, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.”

Dyma a ddywedodd yr Athro Rudolf Allemann, Rhag Is-Ganghellor, Recriwtio Myfyrwyr Rhyngwladol a Myfyrwyr y DU a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg:

“Mae’r Ganolfan, a adeiladwyd ar y cyd â byd diwydiant, ac at ddibenion byd diwydiant, yn gyfleuster diwydiannol ‘agored’ godidog: mae’n agored i bartneriaethau, yn agored i arloesi ac yn agored i greu atebion gwyddonol newydd ym maes Sero Net.”

Mae Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) yn cydweithio â gwyddonwyr rhyngwladol a pheirianwyr cemegol wrth ymchwilio i ddatblygiadau newydd mewn meysydd megis cynhyrchu tanwyddau a’r defnydd o ddŵr. Mae catalyddion yn cyflymu adweithiau cemegol, a hyn sy’n gwneud y prosesau allweddol yn bosibl, yn economaidd-ddichonadwy ac yn bosibl i’w cyflwyno’n ehangach. Maen nhw wrth wraidd bron pob proses a chynnyrch diwydiannol.

Cyfleuster pwrpasol at ddibenion ymchwilio, cynnal profion a datblygu technolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd yn fasnachol yw’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS). Gan ddefnyddio elfennau’r naill ochr i silicon yn y tabl cyfnodol, sglodion electronig cenhedlaeth nesaf hynod o gyflym yw lled-ddargludyddion cyfansawdd. Byddan nhw’n dylanwadu’n fawr ar ein bywydau yn yr 21ain ganrif, boed yn Rhyngrwyd y Pethau, yn roboteg, yn gerbydau ymreolaethol, yn 5G a thechnolegau gofal iechyd.

Yn y Ganolfan Ymchwil Drosi hefyd mae Sefydliad Arloesi Sero Net Prifysgol Caerdydd sydd newydd gael ei lansio. Mae’r Ganolfan yn dwyn ynghyd arbenigedd disgyblaethau gan gynnwys y gwyddorau ffisegol, peirianneg, yr amgylchedd adeiledig, y biowyddorau, y geowyddorau a chynllunio.

Mae'r ganolfan newydd yn rhan o’r gwaith mwyaf i uwchraddio campws Prifysgol Caerdydd ers cenhedlaeth, sef buddsoddiad gwerth £600m yn ei dyfodol.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.