Golygyddol Newydd yn y British Journal of General Practice
30 Mai 2023

Mae’r Ymchwilydd yn CUREMeDE, Sophie Bartlett, wedi cyhoeddi darn golygyddol yn y British Journal of General Practice (BJGP). Rhyddhaodd y BJGP rifyn arbennig y mis hwn a oedd yn canolbwyntio ar systemau gofal sylfaenol.
Wrth i'r pwysau ar feddygfeydd ymarfer cyffredinol gynyddu o hyd, un strategaeth i helpu i liniaru'r straen fu cynnydd yn y gwaith o gyfuno fferyllwyr yn rhan o’r detholiad o sgiliau ymarfer cyffredinol. Mae'r erthygl olygyddol hon yn trafod manteision gwerthfawr cyfuno o'r fath ond yn pwysleisio rhai ystyriaethau pwysig y dylai timau ymarfer cyffredinol fod yn ymwybodol ohonynt.
Mae'r erthygl olygyddol lawn ar gael nawr.
Mae'r darn hwn yn ymwneud â gwaith ehangach a wnaed gan dîm CUREMeDE i wella’r broses o gyfuno fferyllwyr yn ogystal â’u cyfraniad at y detholiad o sgiliau ymarfer cyffredinol.