“Roedd fy lleoliad wir wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau dadansoddi a magu hyder.”
31 Mai 2023
Bu’r fyfyrwraig Dadansoddeg Gymdeithasol (BSc), Emelie Baker, ar leoliad gyda thîm ymgysylltu a llais myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
Dywedodd wrthym am ei phrofiad a'r hyn a ddysgodd ohono.
Ar gyfer fy mlwyddyn lleoliad, arhosais ym Mhrifysgol Caerdydd i ymgymryd â rôl Cynorthwyydd Ymgysylltu a Phrofiad Myfyrwyr, lle roedd gofyn i mi wneud llawer o ddadansoddiadau ystadegol yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.
Dechreuais ar y lleoliad yn fy nhrydedd flwyddyn, ar ôl i mi gael cyfarfod â goruchwyliwr fy nhraethawd hir.
Dywedodd wrthyf am y swydd yr oedd yn ei chynnig, a oedd yn lleoliad blwyddyn o hyd.
Penderfynais geisio amdani, ac mewn chwinciad nid myfyriwr trydedd flwyddyn oeddwn i, ond myfyriwr lleoliad gwaith!
Dechrau arni
Roedd fy lleoliad wedi fy nghyflwyno i weithio hybrid, wrth i mi dreulio rhai diwrnodau yn y swyddfa, a rhai diwrnodau gartref.
Yn y bore, byddwn yn fy nhrefnu fy hun ac yn llunio rhestr o’r hyn yr oedd angen ei wneud, a byddwn fel arfer yn gwneud dadansoddiadau yn ystod y prynhawn.
Roedd y diwrnodau yn y swyddfa wedi fy nghyflwyno i gyfarfodydd wyneb yn wyneb a chynnal grwpiau ffocws, a oedd yn brofiadau defnyddiol iawn i roi syniad i mi o'r hyn i'w ddisgwyl mewn swydd ar ôl i mi raddio.
Fy hoff foment profiad gwaith
Rwy'n credu mai fy hoff foment ar leoliad oedd fy wythnos olaf, mae'n debyg (sy'n swnio'n wael iawn!), ond roedd hynny am mai fy wythnos waith olaf oedd wythnos gyntaf y semester, pan oeddwn nid yn unig yn weithiwr ond yn fyfyriwr hefyd.
Wythnos Groeso yw wythnos gyntaf y tymor, a bûm yn helpu i’w threfnu yn ystod yr haf, felly roedd yn werth chweil gweld y digwyddiad o'r ddwy ochr.
Es i rai o'r cynadleddau a'r cyfarfodydd yn ystod yr wythnos, yr oeddwn wedi helpu i'w hwyluso.
Roedd rhai o'r rheiny'n ymwneud â helpu myfyrwyr yr ail flwyddyn i ddewis yr hyn yr oeddent am ei wneud yn ystod eu blwyddyn lleoliad.
Bûm yn gwneud rhywfaint o waith ar flynyddoedd lleoliad a’r modd y gellir eu gwella, felly roedd yn braf gweld canlyniadau hynny.
Bûm hefyd yn siarad â'r myfyrwyr am fy mhrofiad, ac ers hynny rwyf wedi bod yn cael negeseuon e-bost gan fyfyrwyr yn gofyn rhagor o gwestiynau. Yn fy marn i, roedd yn ffordd dda iawn o ddirwyn fy mlwyddyn lleoliad i ben.
Rhoi damcaniaeth ar waith
Roedd fy lleoliad wir wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau dadansoddi.
Roedd mynd ati i roi sgiliau ar waith yn werth chweil, a’r rheiny’n sgiliau yr oeddwn wedi'u dysgu ym modiwlau’r flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn.
Er enghraifft, astudiais fodiwl ar arolygon yn fy ail flwyddyn, a threuliais y rhan fwyaf o'm blwyddyn lleoliad yn ysgrifennu'r mathau hynny o arolygon.
Roeddwn hefyd wedi astudio modiwl dadansoddi, a threuliais lawer o amser yn dadansoddi arolygon tra oeddwn ar leoliad.
Felly, cyn fy lleoliad, roedd gennyf yr wybodaeth ond nid oeddwn yn gwybod sut i'w chymhwyso i sefyllfaoedd heblaw'r enghreifftiau a roddid i mi.
At hynny, roeddwn mewn amgylchedd rheoledig gydag arbenigwr yn gyd-weithiwr; felly, er fy mod yn cael cymorth cyson, gallwn hefyd weithio'n annibynnol.
Diolch i'm lleoliad, rwyf bellach yn teimlo y gallwn gael set o broblemau a'u datrys o'r dechrau i'r diwedd gan wybod yn union beth y mae angen ei wneud, o ysgrifennu'r arolwg i'w ddadansoddi, ysgrifennu adroddiad, a gallu cyflwyno fy nghanfyddiadau mewn ffordd sy'n dangos beth yw'r broblem a sut y gellir ei datrys.
Fy mharatoi ar gyfer y dyfodol
Roedd fy hyder wir wedi tyfu yn ystod y flwyddyn. Cefais gyfle i gwrdd â llawer o bobl wahanol mewn nifer o feysydd gwahanol yn y brifysgol, ac felly ’nawr rwy'n teimlo'n fwy cyfforddus yn cysylltu â nhw.
Rwy'n credu y byddaf yn ei chael yn llawer haws ennill fy mhlwy mewn cymuned ’nawr, rhywbeth y byddwn yn ei chael yn anodd yn y gorffennol.
Roedd fy lleoliad wir wedi rhoi hwb i’m hyder yn hynny o beth.
Er enghraifft, erbyn hyn nid oes arnaf ofn gofyn os oes angen help arnaf, a, phan fyddaf yn dod yn ddarlithydd (gobeithio), byddaf yn teimlo'n fwy o ran o'r gymuned oherwydd bydd gennyf fwy o syniad sut deimlad yw bod ar yr ochr arall o ganlyniad i’m lleoliad.
Diolch yn fawr i Emelie am neilltuo amser i sgwrsio â ni.
Gallwch ei gwylio'n siarad am ei phrofiad gwaith.
Mae ein cyrsiau'n cynnig blwyddyn lleoliad dewisol yn ystod eich astudiaethau dysgu