Dathlu llwyddiant Athena SWAN
30 Mai 2023
Mae'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth wedi derbyn Gwobr Efydd Athena SWAN i gydnabod ei hymrwymiad i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau.
Fframwaith yw Siarter Athena SWAN a ddefnyddir ledled y byd i gefnogi a thrawsnewid cydraddoldeb rhwng y rhywiau a rhywedd ym myd addysg uwch ac ymchwil.
Rhoddir gwobrau i sefydliadau sy’n gallu dangos lefelau cynyddol o arfer da o ran recriwtio, cadw a hyrwyddo menywod yn y meysydd hyn.
Derbyniodd yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ei gwobr drwy gysylltu â staff a myfyrwyr o bob lefel i adnabod y prif feysydd yr oedd angen mynd i'r afael â nhw er mwyn hyrwyddo mwy o gydraddoldeb o ran rhywedd, a diwylliant mwy cynhwysol yn yr ysgol. Aeth y tîm ati wedyn i gynllunio cynllun gweithredu er mwyn cyflawni amcanion uchelgeisiol dros y pum mlynedd nesaf.
Amlygwyd gwaith ar draws pob disgyblaeth yn ei dathliad ym mis Mai mewn ystod o gyflwyniadau deinamig am brosiectau cysylltiedig, gan gynnwys:
- Prosiect Hiliaeth Hylifol (Dr Tereza Spilioti)
- Strategaeth Rhyngwladoli Ysgolion (Yr Athro Mike Handford, Canolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu)
- Ffilmiau Anweledig: Posibiliadau Ffeministaidd Ffilmiau Anorffenedig (Dr Alix Beeston (Llenyddiaeth Saesneg)
- Portreadau Cwîr (Ethan Evans, PhD Llenyddiaeth Saesneg)
- Safbwyntiau Croestoriadol: Hunaniaeth, Diwylliant a Chymdeithas (Morgan Lee, PhD Llenyddiaeth Saesneg, Prif Olygydd ac Arwa-Al-Mubaddel, PhD Llenyddiaeth Saesneg, cyn Brif Olygydd)
- Murluniau Coridor Athroniaeth (Dr Liz Irvine, Athroniaeth)
- Agweddau tuag at Amrywiaeth: Astudiaeth Achos Ethnograffig o Arferion Iaith mewn Ysgol Uwchradd Gymraeg (Anaer Yeerjiang, Canolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu PhD)
Yn cyflwyno'r digwyddiad roedd Pennaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y brifysgol Rebecca Newsome a'r Dirprwy Is-Ganghellor yr Athro Damian Walford-Davies ochr yn ochr â'r Deon Cyswllt dros Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yng Ngholeg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol Dr Michelle Aldridge-Waddon a Phennaeth yr Ysgol yr Athro Martin Willis.
Arweiniodd Dr Jane Moore, Cadeirydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn yr ysgol, y cyflwyniad ar gyfer y wobr. Dywedodd hi: "Rydyn ni'n hynod o falch ein bod wedi ennill Gwobr Efydd Athena SWAN. Mae hyn yn dangos y cynnydd mae’r Ysgol wedi'i wneud perthynas â chydraddoldeb rhwng y rhywiau yn ogystal â'n hymrwymiad parhaus i gamau a fydd yn arwain at gymuned fwy amrywiol, cynhwysol a chyfartal yn yr Ysgol.
"Diolch i'n tîm hunan-asesu a'r holl staff a myfyrwyr a gyfrannodd at ddatblygu ein cyflwyniad a'n cynllun gweithredu yr ydym bellach yn edrych ymlaen at ei gyflawni."
Sefydlwyd Siarter Athena SWAN yn 2005 i annog a chydnabod yr ymrwymiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod yng nghyflogaeth ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM).
Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ehangodd y Siarter i gynnwys y celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol, busnes a’r gyfraith (AHSSBL), ac mae bellach yn cydnabod gwaith yr ymgymerir ag e i fynd i’r afael â chydraddoldeb rhwng y rhywiau’n fwy eang.