Cydnabod academydd yn rhyngwladol am ei gwaith yn hyrwyddo amlieithrwydd
26 Mai 2023
Mae academydd o Brifysgol Caerdydd wedi cael ei chydnabod gan Lywodraeth Ffrainc am ei gwaith yn hyrwyddo iaith, diwylliant ac amlieithrwydd Ffrainc yng Nghymru a'r DU.
Casglodd yr Athro Claire Gorrara anrhydedd y Chevalier dans l'Ordre National du Mérite mewn seremoni yn yr Institut Français yn Llundain ar 19 Mai.
Ar hyn o bryd yr Athro Gorrara yw Deon Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Caerdydd yng Ngholeg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, gan arwain ar ddatblygu a gweithredu'r prosiect Mentora Ieithoedd Tramor Modern (MFL). Nod y prosiect hwn yw cynyddu'r nifer sy'n dysgu ieithoedd modern mewn ysgolion uwchradd yn y DU a thu hwnt. Yn ogystal â bod yn eiriolwr cryf dros fanteision amlieithrwydd, mae ymchwil academaidd arall yr Athro Gorrara wedi ymchwilio i naratifau ac atgofion o'r Ail Ryfel Byd yn Ffrainc a Phrydain.
Dyma a ddywedodd yr Athro Gorrara, sy'n gweithio yn Ysgol Ieithoedd Modern y Brifysgol: "Braint o’r mwyaf yw ennill y wobr hon. Mae gen i gariad gydol oes at Ffrainc, byth oddi ar fy mlwyddyn dramor yn ystod fy ngradd israddedig yn addysgu Saesneg mewn ysgol uwchradd yn Normandi. Gwnes i ffrindiau oes yn ystod y flwyddyn honno ac ers hynny rwy wedi ceisio meithrin y cariad hwnnw at Ffrangeg ac yn wir yr holl ieithoedd ymhlith fy myfyrwyr byth oddi ar hynny.
"Mae fy ngwaith ar y cyd i gefnogi amlieithrwydd mewn ysgolion yng Nghymru a Lloegr yn deillio o'r argyhoeddiad bod ieithoedd yn agor drysau i fydoedd eraill, gan alluogi dysgwyr iau i werthfawrogi eu diwylliannau eu hunain a diwylliannau eraill, gan fod yn fwy ymwybodol a gallu gwerthfawrogi’n feirniadol.
Dyma a ddywedodd Pennaeth yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Caerdydd, yr Athro David Clarke: "Mae Claire yn hyrwyddwr dros Ieithoedd Tramor Modern yng Nghymru a thu hwnt. Mae ei hymrwymiad i greu cyfleoedd i ddysgwyr ac i gefnogi amlieithrwydd yn esiampl i bob un ohonon ni, a gwych o beth yw gweld ei bod wedi ennill y wobr mawr ei bri hon."
Dechreuodd prosiect Mentora Ieithoedd Tramor Modern yn 2015 yn rhan o raglen ehangach, sef Dyfodol Byd-eang a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y dysgwyr ifanc sy'n astudio ieithoedd yng Nghymru. Ers hynny mae'r prosiect, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi gweithio gyda 152 o ysgolion uwchradd yng Nghymru ac mae tua 20,000 o ddysgwyr wedi bod yn gysylltiedig â'r prosiect.
Mae’r mentoriaid, sy’n fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, yn gweithio gyda disgyblion rhwng 12 a 14 oed sydd ar fin gwneud eu dewisiadau ynghylch pa bynciau i’w hastudio ar gyfer yr arholiadau TGAU yn 16 oed. Mae'r prosiect yn cefnogi disgyblion i ystyried manteision siarad iaith arall ac yn herio camdybiaethau. Wrth wneud hynny, y gobaith yw y gall mentoriaid prifysgol ysbrydoli mentoreion mewn ysgolion i weld y llu o bosibiliadau y bydd cariad at ieithoedd yn eu creu yn ogystal â chodi dyheadau’r disgyblion o ran mynd i'r brifysgol.
Ar gyfartaledd, mae 35-40% o ddisgyblion sy'n cael eu mentora yn nodi y byddan nhw’n dewis iaith fodern ar gyfer arholiadau TGAU. Mae’r ffigwr hwn deirgwaith y cyfartaledd cenedlaethol yng Nghymru, lle dim ond 12.7% o ddisgyblion sy'n dewis astudio iaith fodern ar gyfer arholiad TGAU ar hyn o bryd.
Mae'r prosiect wedi ehangu o bedair prifysgol a oedd yn bartneriaid yn 2015 i 10 prifysgol sy’n bartneriaid yn 2023. Maen nhw ar hyd a lled Cymru: Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a phrosiect carfan fach gydag Adran Ieithyddiaeth Prifysgol Rhydychen.
Mae'r prosiect hefyd yn bartner i Reaching Wider, sef cynllun ehangu cyfranogiad sy’n cefnogi dysgwyr o ardaloedd mwy difreintiedig, a hynny’n rhan o'i genhadaeth graidd i gefnogi myfyrwyr o bob cefndir i gyflawni.