Lansio pecyn cymorth iaith ar gyfer ysgolion cynradd yn swyddogol
24 Mai 2023
Mae pecyn cymorth iaith cynradd sydd wedi'i fwriadu ar gyfer dysgwyr ysgolion cynradd wedi cael ei lansio'n swyddogol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Daeth tua 40 o bobl i'r lansio a gynhaliwyd ar 22 Ebrill 2023 yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr.
Mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru wedi bod yn datblygu'r pecyn cymorth yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf i baratoi ar gyfer y Cwricwlwm newydd i Gymru a gafodd ei gyflwyno ym mis Medi 2022. Mae'r newidiadau i'r cwricwlwm yn golygu y bydd ieithoedd rhyngwladol yn cael eu cyflwyno o Gam Dilyniant 2 yn y sector cynradd. Nod y pecyn cymorth felly yw helpu athrawon ysgolion cynradd i gyflwyno ieithoedd i'r ystafell ddosbarth. Mae ar gael ar hyn o bryd yn Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg, a hynny ar gyfer dysgu yn Gymraeg a Saesneg.
Wrth drafod y pecyn cymorth, dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS: “Rwy'n falch o gefnogi lansiad swyddogol Pecyn Cymorth Cynradd Llwybrau at Ieithoedd Cymru heddiw. Bydd y pecyn cymorth yn helpu i gefnogi ein hathrawon cynradd - yn arbenigwyr a rhai heb arbenigedd yn y maes - i gyflwyno ieithoedd rhyngwladol fel rhan o'r Cwricwlwm i Gymru.
“Mae cyflwyno ieithoedd rhyngwladol yn yr ysgol gynradd yn un o elfennau cyffrous ein cwricwlwm newydd. Bydd yn ehangu addysgu ieithoedd rhyngwladol yn esbonyddol ac yn creu momentwm a chariad gwirioneddol at ieithoedd o'r cynradd i'r ysgol uwchradd. Mae'r Pecyn Cymorth dwyieithog ar gael ar hyn o bryd ar gyfer Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg, ac mae’n cefnogi ein gweledigaeth o ddathlu iaith a diwylliant a nodir ym Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Croesawu Cymru ddwyieithog mewn cyd-destun rhyngwladol.
“Bydd y pecyn cymorth yn cynnig cyfleoedd cyffrous i ddatblygu amgylcheddau a darpariaeth iaith gyfoethog ledled Cymru ac yn helpu i ddatblygu dysgwyr y dyfodol — ein harcharwyr iaith!”
Comisiynwyd y pecyn cymorth gan arweinydd Academaidd blaenorol Llwybrau Cymru, Dr Liz-Wren Owens, yn fodd i gefnogi athrawon cynradd sy’n arbenigwyr a rhai heb arbenigedd yn y maes i addysgu ieithoedd rhyngwladol. Dyluniwyd y pecynnau cymorth gan y Datblygwyr Pecyn Cymorth Cynradd, Jo Morgan a Susanne Arenhovel, a Chydlynydd Prosiect Llwybrau Cymru, Meleri Jenkins.
Maent yn cynnwys chwe Chyd-destun Dysgu. Y cyd-destun dysgu cyntaf yw ‘Byd Rhyfeddol Ieithoedd’ / ‘The Wonderful World of Languages’. Mae hwn yn gyd-destun dysgu cyffredinol ar gyfer pecynnau cymorth Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg lle rhoddir cyfle i ddisgyblion edrych ar eu hunaniaeth eu hunain a gweld pa ieithoedd sy'n rhan ohoni yn ogystal ag archwilio agweddau amrywiol ar ddwyieithrwydd ac amlieithrwydd.
Mae'r pum Cyd-destun Dysgu arall yn seiliedig ar ddiwylliant ac yn ymdrin â phynciau fel cyfarfod a chyfarch, celf, chwaraeon a lles, bwyd a gadewch i ni ddathlu gŵyl. Rhoddir pwyslais felly nid yn unig ar ddysgu'r iaith ei hun ond hefyd ar y diwylliant y mae'r iaith yn rhan ohoni, a sut maen nhw’n cysylltu â Meysydd Dysgu a Phrofiad eraill sy'n rhan o'r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Wrth lansio'r pecyn cymorth, dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Mae'n bleser mawr gen i ddweud bod Prifysgol Caerdydd wedi hyrwyddo a chefnogi'r fenter bwysig hon o'r cychwyn cyntaf. O ystyried fy nghefndir fy hun mewn ieithoedd, mae mentrau sy'n hyrwyddo gwelededd, nifer y bobl sy'n manteisio ar ieithoedd mewn ysgolion yng Nghymru, a phroffil ieithoedd yn cael fy nghefnogaeth lwyr ac mae'r fenter hon yn enghraifft ragorol o hynny.
"Ni ellir tanbrisio’r cyfoethogi a ddarperir o ddysgu iaith ac mae'r Pecyn Cymorth Cynradd yn fenter gyffrous i Lwybrau at Ieithoedd Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd myfyrwyr ysgolion cynradd yn mwynhau'r hyn a ddaw yn sgil y pecyn cymorth, a phwy a ŵyr i ble gallai'r blas hwn am ieithoedd arwain. Diolch o waelod calon a llongyfarchiadau i bawb a fu’n rhan o hyn.”
Mynychwyd y lansiad hefyd gan aelodau o'r Sefydliadau Diwylliannol a sefydliadau eraill sy'n cefnogi dysgu ieithoedd yng Nghymru a chafwyd cyflwyniadau ar y diwrnod gan gynrychiolwyr o'r Institut Français, y Consejería de Educación, Sefydliad Confucius Prifysgol Caerdydd, Cyngor Prydeinig Cymru/Cerdd Iaith, y Brifysgol Agored Cymru a Taith. Bu Llysgenhadon Iaith Myfyrwyr Llwybrau Cymru o Brifysgolion Caerdydd ac Abertawe hefyd yn cefnogi gweithgareddau'r dydd.
Ers ei lansio'n feddal ym mis Gorffennaf 2022, mae'r pecyn cymorth wedi cyrraedd dros 580 o ysgolion yng Nghymru ac wedi derbyn dros 1,100 o gofrestriadau hyd yma. Gellir gwneud cais am y pecynnau cymorth ar wefan Llwybrau Cymru.