Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr ac academyddion Prifysgol Caerdydd yn Eisteddfod yr Urdd

26 Mai 2023

Arwydd croeso amryliw mewn cae gyda choed yn y cefndir

Yn Eisteddfod yr Urdd eleni, bydd pobl ifanc yn cael clywed am brofiad y myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ac am ei hymchwil.

Unwaith eto, bydd academyddion ac israddedigion yn yr ŵyl ieuenctid Gymraeg flynyddol; eleni mae hi’n cael ei chynnal yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin ac yn mae’n digwydd yr wythnos nesaf.

Bydd cyfres o weithgareddau ymgysylltu sy'n cwmpasu ystod o bynciau yn cael eu cynnal ym mhabell Prifysgol Caerdydd – mae manteision algâu gwyrdd glas, y technegau diweddaraf y mae seryddwyr yn eu defnyddio ac agweddau ar derfysgoedd Merched Beca ymhlith y pynciau dan sylw.

Bydd cyfle hefyd i glywed sut beth yw bod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd  – gyda gweithgareddau ymarferol yn ymwneud â sgiliau ym maes newyddiaduraeth a hefyd y wyddoniaeth sy’n sail i yrfa ym maes gofal iechyd, ar gael.

Bydd Côr Gospel Prifysgol Birmingham yn Alabama hefyd yn canu ym mhabell Prifysgol Caerdydd, gan roi cyfle unigryw i'r gynulleidfa glywed detholiad o ganeuon gospel yn cael eu canu yn y Gymraeg.

Eleni, roedd myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd yn rhan o Neges Heddwch yr Urdd; neges sy’n canolbwyntio ar wrth-hiliaeth.

Mae Seremoni Goroni'r ŵyl hefyd yn cael ei noddi gan Brifysgol Caerdydd.

Meddai’r Athro Damian Walford Davies, a’r Dirprwy Is-Ganghellor: "Yn ogystal â dangos ein cefnogaeth i arddangosiad blynyddol yr Urdd o ddiwylliant Cymraeg a thalent ifanc Cymru, rydyn ni’n gobeithio y bydd ein digwyddiadau'n ysbrydoli pobl ifanc i feddwl am yr ystod enfawr o gyfleoedd sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd, lle gallant ddatblygu eu diddordebau a'u sgiliau gan ddilyn llwybrau newydd cyffrous."

I weld y rhaglen ddigwyddiadau’n llawn, cliciwch yma.

Rhannu’r stori hon

Ein nod yw rhoi cyfle i’n myfyrwyr astudio a byw eu bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg.