Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl wedi ei lansio'n swyddogol
1 Mehefin 2023
Mae Prifysgol Caerdydd wedi lansio sefydliad arloesedd sy’n ceisio mynd i’r afael ag un o’r heriau cymdeithasol mawr sy’n wynebu’r byd heddiw – baich cynyddol afiechyd meddwl ac anhwylderau niwroddirywiol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn falch o lansio'r Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl yn swyddogol. Cenhadaeth y Sefydliad yw manteisio ar ein hymchwil sy'n arwain y byd ym maes iechyd yr ymennydd ac iechyd meddwl i wella bywydau cleifion a'u teuluoedd.
Mae gwaith y sefydliad yn berthnasol hyd oes, o blentyndod i henaint, ac mae'n cynnwys cyflyrau niwroddatblygiadol fel anhwylder gorfywiogrwydd diffyg sylw ac awtistiaeth, yr anhwylderau seiciatrig oedolion mawr megis sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol, epilepsi, dystonia ac anhwylderau niwroddirywiol fel clefyd Alzheimer, clefyd Huntington a chlefyd Parkinson.
Mae'r sefydliad yn cynnwys grŵp amrywiol o wyddonwyr a chlinigwyr sydd wedi ymrwymo i drosi eu hymchwil sy'n arwain y byd yn therapïau newydd a gwell ar gyfer anhwylderau'r ymennydd ac iechyd meddwl. Mae gwyddonwyr a chlinigwyr y sefydliad yn gweithio gyda grwpiau cleifion a'u teuluoedd, elusennau, y GIG, asiantaethau ariannu llywodraeth leol a'r DU, grwpiau ymchwil academaidd o bob rhan o'r byd a diwydiant.
Mae gwaith y sefydliad yn seiliedig ar 4 maes her allweddol:
- Defnyddio genomeg gyda data mawr - Mae'r brifysgol yn cynnal ymchwil o'r radd flaenaf mewn genomeg ac mae ganddi fynediad at garfannau mawr o gleifion sydd wedi'u genoteipio a'u hasesu'n glinigol o asedau strategol allweddol. Mae gan waith i gyfuno genomeg â phŵer data mawr botensial mawr i roi syniadau newydd ynglŷn â haeniad anhwylderau’r ymennydd a datblygu llwybrau at driniaeth bersonol.
- Manteisio ar bŵer niwrowyddoniaeth - Mae'r sefydliad yn defnyddio dulliau niwrowyddoniaeth amlddisgyblaethol gan gynnwys dulliau sy’n seiliedig ar fôn-gelloedd dynol, delweddu’r ymennydd, niwroseicoleg, a niwroimiwnoleg i ddeall effaith ffactorau risg ar weithrediad yr ymennydd, i ddatblygu biofarcwyr ar gyfer ymyrraeth gynnar, ac i ddatgelu mecanweithiau pathogenig sy’n gallu llywio’r gwaith o ddatblygu therapïau.
- Triniaethau newydd - Mae gwaith dadansoddi helaeth yn dangos bod datblygu therapïau sy'n seiliedig ar dargedau a ddiffinnir yn genomig yn fwy tebygol o lwyddo yn y clinig. Mae'r sefydliad yn defnyddio genomeg, ynghyd â dulliau newydd ym meysydd niwrowyddoniaeth a gwyddor data, i gyfrannu at ddatblygu meddyginiaethau mwy diogel a mwy effeithiol ar gyfer rhoi triniaethau personol ar gyfer anhwylderau iechyd meddwl ac anhwylderau’r ymennydd.
- Gwella iechyd meddwl cymdeithasol - mae 75% o broblemau iechyd meddwl yn dechrau cyn 18 oed. Mae'r sefydliad yn ymgysylltu â chydweithwyr yn y gwyddorau cymdeithasol i ystyried sut y gall datblygiadau mewn genomeg a niwrowyddoniaeth lywio’r broses o ddatblygu gwasanaethau clinigol newydd a dulliau newydd o roi diagnosis a thriniaethau. Maen nhw hefyd yn cefnogi gwaith ar ymyriadau ar gyfer pobl o bob oedran, gan gynnwys ymarfer corff a hyfforddiant gwybyddol i gefnogi lles meddyliol mewn henaint.
Cynhaliwyd y lansiad ddydd Iau 11 Mai, yn Adeilad Hadyn Ellis Prifysgol Caerdydd. Roedd y digwyddiad yn arddangos y gwaith gwerthfawr sy'n cael ei wneud gan y sefydliad, ac roedd yn cynnwys cyflwyniadau gan bob un o'r cyd-gyfarwyddwyr, yn ogystal â phartneriaid allanol, ac Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa. Roedd cyfle hefyd i gwrdd â chynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau partner yn eu stondinau arddangos, a gweld posteri ymchwil.
Roedd dros 125 o bobl yn bresennol, ac roedd y gwesteion yn cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a thu hwnt, cyllidwyr allanol allweddol, a chynrychiolwyr o’r diwydiant – gan gynnwys Takeda, Simbec-Orion, a Janssen UK.
Roedd y sefydliad yn arbennig o falch o groesawu fel eu prif siaradwr yr Athro Heather Stevens, Sylfaenydd a Chadeirydd Sefydliad Waterloo. Mae Sefydliad Waterloo yn ymddiriedolaeth sy'n rhoi grantiau sy'n cefnogi datblygiad plant, datblygiad y byd a'r amgylchedd. Mae'r Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl wedi mwynhau partneriaeth lwyddiannus gyda Sefydliad Waterloo ers bron i ddegawd, ac yn yr amser hwnnw mae wedi meithrin dros ddwsin o gymrodyr ymchwil iau trwy ei 'Rhaglenni Newid Meddyliau a Meddyliau'r Dyfodol'.
Dywedodd yr Athro Lawrence Wilkinson, Cyd-gyfarwyddwr Arweiniol y Sefydliad: “Roedd y lansiad hwn yn ymwneud ag arddangos esblygiad y Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl, ac roedd yn gyfle i ni arddangos ein gwaith, ac i ddweud wrth bobl am ein cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol."
Mae’r Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl yn rhan o fuddsoddiad gwerth £5.4 miliwn gan Brifysgol Caerdydd; arian sydd wedi’i fuddsoddi mewn pum sefydliad arloesedd ac ymchwil sy’n mynd i’r afael â’r materion mwyaf sy’n wynebu cymdeithas, yr economi, a’r amgylchedd.