Syr Brian Smith
23 Mai 2023
Mae Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd wedi talu teyrnged i'w ragflaenydd, Syr Brian Smith a fu farw'r wythnos diwethaf.
Daeth Syr Brian yn Is-Ganghellor y Brifysgol ym 1993, a bu iddo barhau yn y swydd honno hyd nes iddo ymddeol yn 2001. Er iddo ymddeol, cadwodd berthynas waith weithgar ac agos gyda'r Brifysgol gan fod yn Llysgennad Rhyngwladol iddi tan 2012.
Roedd hefyd yn gwbl allweddol wrth sefydlu Rhwydwaith Arloesi Prifysgol Caerdydd sy'n helpu i gefnogi ac annog prosiectau arloesi busnesau lleol.
Dyma a ddywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: “Gyda thristwch o’r mwyaf y cawsom y newyddion ynghylch marwolaeth ein cyn Is-Ganghellor, Syr Brian Smith.
“Bûm yn ffodus i gwrdd â Syr Brian ar sawl achlysur, ac rwy’n cofio mor angerddol y byddai’n siarad am ei amser yn y Brifysgol a’i hoffter ohoni.
“Roedd o flaen ei amser o ran ei ymrwymiad i ryngwladoldeb ac i hyrwyddo ymchwil ac arloesi. Bu ei weledigaeth a'i angerdd o gymorth mawr o ran creu sylfeini ein Prifysgol ffyniannus, ddeinamig a modern.
“Ar ran pawb yn y Brifysgol, rwyf yn estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i'w deulu ar yr adeg hynod anodd hon.”
Cafodd Syr Brian ei eni yng ngogledd Cymru a'i addysgu yn lleol, gan ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Cemeg a PhD ym maes Cemeg Ffisegol ym Mhrifysgol Lerpwl.
Aeth ymlaen i ymgymryd â Chymrodoriaeth Ymchwil ym Mhrifysgol California, Berkeley, ac wedi hynny aeth yn Ddarlithydd Cemeg Ffisegol ym Mhrifysgol Rhydychen ac yn Gymrawd Coleg Santes Catrin, Rhydychen, lle y bu’n gweithio hyd nes iddo gael ei benodi yng Nghaerdydd.
Cyhoeddodd Syr Brian yn eang gan ysgrifennu llyfrau ac erthyglau ymchwil ar rymoedd rhyngfoleciwlaidd ac effeithiau ffisiolegol nwyon syml. Dyfarnwyd DSc iddo gan Brifysgol Rhydychen i gydnabod yr ymchwil hon, a bu i elfennau ohoni gyfrannu at ddatblygiadau ym maes technoleg plymio dyfnforol.
Darllenwch ysgrif goffa Syr Brian, a ysgrifennwyd gan yr Athro Paul Atkinson.