Tiwtor wedi cyrraedd rownd derfynol gwobr fawreddog
17 Mai 2023
Mae Jannat Ahmed yn cael ei chydnabod gan Wobrau Dewi Sant
Mae Jannat Ahmed yn dysgu ysgrifennu creadigol a’r cyfryngau ar gyfer Addysg Barhaus a Phroffesiynol (CPE) Prifysgol Caerdydd.
Yn ddiweddar cyhoeddwyd bod Jannat wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Dewi Sant yn y categori diwylliant. Mae’r wobr genedlaethol hon yn cydnabod cyfraniad Jannat i lenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru.
Cyd-sefydlodd Jannat, sy’n 27 oed ac yn byw yn y Barri ym Mro Morgannwg, Lucent Dreaming, cwmni cyhoeddi cynhwysol sy’n gefnogol i gyfranwyr sydd yn hanesyddol wedi’u hesgeuluso gan, neu wedi’u hepgor yn y byd cyhoeddi yn y gorffennol.
Mae ymrwymiad Jannat i helpu eraill i ddarganfod llwybrau i’r byd cyhoeddi ac ysgrifennu yn deillio o'i phrofiadau hi fel menyw ifanc o liw o gefndir dosbarth gweithiol yn dechrau ar yrfa fel awdur. Dywedodd Jannat:
“Cafodd Lucent Dreaming ei gyd-sefydlu yma ym Mhrifysgol Caerdydd gyda’r cyn-fyfyrwyr Joachim Buur a Jess Beynon tra roeddwn i’n astudio MA Llenyddiaeth Saesneg ac yn delio â gorbryder.
Roedd y cylchgrawn, sydd bellach hefyd yn wasg yn ddihangfa yn ôl i greadigrwydd fy mhlentyndod ac ers hynny mae wedi agor cymaint o ddrysau i mi, o ddatblygu prosiectau yn Poetry Wales, i fentora myfyrwyr a dysgu yn y brifysgol.”
Mae Jannat wrth ei bodd yn cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Dewi Sant a dywedodd:
“Mae’n gymaint o anrhydedd i gael fy enwi yn rownd derfynol categori diwylliant Gwobrau Dewi Sant eleni, ac ochr yn ochr â phobl hynod nodedig ledled Cymru. Ond mae'r holl beth yn swreal, ym mhob ffordd.
I gael fy nghydnabod am fy nghyfraniad i ddiwylliant Cymru - dwi'n teimlo mai dim ond ar ddechrau pethau ydw i, ond dwi'n meddwl bod hynny'n gwneud hyn hyd yn oed yn fwy arbennig. Rydw i mor ddiolchgar i bawb sydd wedi fy nghefnogi a’m meithrin ar hyd y ffordd.”
Dywedodd Dr Michelle Deininger, sy’n cydlynu rhaglen y Dyniaethau yn CPE:
Mae Jannat yn awdur, athrawes, golygydd a mentor ysbrydoledig i gynifer o bobl. Ar ôl ei gweld ar waith ar ein rhaglenni addysgu cymunedol a Llwybrau at Radd, mae'n amlwg faint o egni a llawenydd y mae Jannat yn ei roi i'w gwaith.
Mae hi'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau a phrofiadau awduron a myfyrwyr yng Nghymru a thu hwnt - mae hi'n fodel rôl i awduron dosbarth gweithiol, ond hefyd yn arloeswr i ferched o liw ym myd y celfyddydau.
Bydd Jannat yn dysgu eto o fis Medi ymlaen. Mae rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau ysgrifennu creadigol ar gael yma.