Lansio cwrs cymorth bywyd trawma mawr (MTLS) i ateb y galw brys yng Nghymru
17 Mai 2023
Mae'r Brifysgol a Rhwydwaith Trawma Mawr De Cymru (SWMTN) yn cydweithio i gyflwyno cwrs dysgu cyfunol newydd wedi'i deilwra ar gyfer staff GIG Cymru.
Mae’r rhaglen hon yn cynnwys sesiynau gan feddygon ymgynghorol, uwch nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ledled Cymru, gan gynnwys Arweinydd SWMTN ar gyfer Addysg Glinigol, Dr Kosta Morley a Metron SWMTN, Angharad Griffiths. Nod y cwrs MTLS yw ateb y galw brys am fwy o addysg trawma yn y lleoliad gofal acíwt.
Mae ffactorau amrywiol, gan gynnwys nifer fawr o staff adrannau achosion brys, gofynion cwricwlaidd gwerthuso newydd, ac effaith y pandemig ar hyfforddiant, wedi arwain at alw brys am gwrs trawma pwrpasol.
Nod y Brifysgol a SWMTN yw llenwi’r bwlch hwn gyda’r cwrs MTLS newydd sy’n ceisio cynnig cwrs fforddiadwy, daearyddol gyfleus, amlddisgyblaethol, ac sy’n berthnasol yn glinigol i feddygon, nyrsys, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol perthynol i reoli trawma acíwt.
Mae’r cyflwyno’n gymysg, gan gyfuno astudiaeth eDdysgu annibynnol gyda sesiwn dydd wyneb yn wyneb ac asesiad rhithwir. Mae'r dull hwn yn cydnabod y pwysau amser y mae staff rheng flaen yn ei wynebu ac yn caniatáu iddynt reoli eu hamser ac astudio o amgylch eu hymrwymiadau gwaith.
Mae modd mynnu’ch lle ar y cwrs hwn nawr. Ewch i dudalen y cwrs i gael gwybodaeth lawn am gynnwys y cwrs, canlyniadau dysgu, ac amserlen enghreifftiol ar gyfer y sesiwn wyneb yn wyneb. Mae dwy sesiwn wyneb yn wyneb ar gael ar hyn o bryd: 23 Hydref a 24 Hydref.
Os hoffech drafod sut y gallwn weithio gyda’ch sefydliad i ddarparu cyfleoedd DPP, cysylltwch â’n tîm cyfeillgar: