Ewch i’r prif gynnwys

Egwyddorion Cyfraith Ganon sy'n Gyffredin i Eglwysi'r Cymun Anglicanaidd: Ail Argraffiad

1 Mawrth 2023

Alan Perry, un o raddedigion LLM o Gaerdydd, yn cyflwyno'r Egwyddorion i'r Cyngor Anglicanaidd Ymgynghorol (ACC) yn Ghana
Alan Perry, un o raddedigion LLM o Gaerdydd, yn cyflwyno'r Egwyddorion i'r Cyngor Anglicanaidd Ymgynghorol (ACC) yn Ghana.

Tra bod pob eglwys yn y Cymun Anglicanaidd yn ymreolaethol ac yn cael ei llywodraethu yn ôl ei system gyfreithiol ei hun, mae yna egwyddorion cyffredin o ran cyfraith canon. Mae’r egwyddorion hyn wedi’u sefydlu’n ffeithiol drwy astudio cyfraith yr eglwysi, yn dilyn cyhoeddi Egwyddorion Cyfraith Ganon sy’n Gyffredin i Eglwysi’r Cymun Anglicanaidd gan yr Athro Norman Doe yn 2008.

Yn 2022, roedd cynhyrchu’r ail rifyn yn brosiect ar y cyd a oruchwyliodd Canolfan y Gyfraith a Chrefydd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd, Cymdeithas y Gyfraith Eglwysig, a’r Cyngor Anglicanaidd Ymgynghorol. Cyfrannodd mewnbwn gan dros 70 o gyfreithwyr canon ledled y byd at yr adolygiad, a gafodd ei gadeirio gan y myfyriwr doethuriaeth o Gaerdydd, Russell Dewhurst.

Lansiwyd yr ail rifyn ym mis Awst 2022 yng Nghynhadledd Lambeth – cyfarfod o dros 600 o esgobion o’r Cymun Anglicanaidd byd-eang. Llywyddwyd y lansiad gan fyfyrwraig LLM Caerdydd, Vicentia Kgabe, Esgob Lesotho.

Ym mis Chwefror 2023, cyflwynodd Alan Perry, un o raddedigion LLM Caerdydd, yr Egwyddorion i’r Cyngor Anglicanaidd Ymgynghorol (ACC), yn ei gyfarfod yn Accra, Ghana. Penderfynodd yr ACC gymeradwyo'r Egwyddorion diwygiedig i'w hastudio a'u defnyddio, ac anogodd yr holl Eglwysi i gadw golwg ar eu canonau yng ngoleuni'r Egwyddorion.

Mae’r grwpiau darllen cyntaf sy’n astudio’r ail argraffiad eisoes yn cael eu ffurfio yn Eglwys Anglicanaidd De Affrica ac mae cyfieithiad Portiwgaleg o’r Egwyddorion ar y gweill yn Eglwys Esgobol Anglicanaidd Brasil.

Rhannu’r stori hon