Arwyddo partneriaeth strategol rhwng DSV a Phrifysgol Caerdydd
11 Mai 2023
Mae Prifysgol Caerdydd wedi arwyddo partneriaeth strategol gyda DSV - y cwmni cludo a logisteg o Ddenmarc.
Mae'r cytundeb yn braenaru’r tir i gydweithredu’n agosach o ran materion arloesi, ymchwil, datblygu staff, dyfodol myfyrwyr a datblygu busnes rhyngwladol.
Croesawodd y Brifysgol uwch-swyddogion gweithredol o Ddenmarc a’r Iseldiroedd i seremoni arwyddo a thaith o amgylch cyfleusterau arloesi blaengar Caerdydd, gan gynnwys sbarc | spark a RemakerSpace.
Aeth yr Athro Aris Syntetos o Brifysgol Caerdydd a Mike Wilson o DSV ati ill dau i greu yn 2016 Sefydliad Gweithgynhyrchu, Logisteg a Stocrestri Eiddo PARC sy’n rhan o Ysgol Busnes Caerdydd. Ar ben hynny, mae DSV wedi buddsoddi adnoddau dynol yng Nghampws Arloesi newydd y Brifysgol drwy RemakerSpace, sy’n rhan o sbarc I spark.
Dyma a ddywedodd Brian Ejsing, Prif Swyddog Gweithredol, DSV Solutions: “Mae arwyddo’r bartneriaeth strategol gyda Phrifysgol Caerdydd yn cadarnhau cyfeillgarwch hirdymor ond mae hefyd yn rhoi’r cyfle inni ymdrechu i ddod o hyd i ffyrdd glanach a gwyrddach o weithio. Diolch i arbenigedd busnes Caerdydd, bydd y bartneriaeth yn caniatáu inni ganolbwyntio ar bedwar maes allweddol: Cadwyni Cyflenwi Byd-eang y Dyfodol; Cynaliadwyedd, yr Economi Gylchol a Gwyrdd; Data a Deallusrwydd Artiffisial, a Logisteg Uwch-weithgynhyrchu ac Ail-weithgynhyrchu, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i helpu’r diwydiant i fabwysiadu arferion sy’n wyrddach ac yn fwy ecogyfeillgar.”
Yn ystod yr ymweliad, aeth swyddogion gweithredol DSV ar daith o amgylch ystod o gyfleusterau’r Brifysgol gan gynnwys Sefydliad Gweithgynhyrchu, Logisteg a Stocrestri Eiddo PARC, ac adran Logisteg a Rheoli Gweithrediadau (LOM) Ysgol Busnes Caerdydd. Cawson nhw hefyd y cyfle i gwrdd ag arbenigwyr o’r Ganolfan Uwch-systemau Gweithgynhyrchu yn y Brifysgol (CAMSAC), y Grŵp Ymchwil Gweithgynhyrchu Gwerthfawr a’r Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Pobl-Peiriannau, ynghyd â chynrychiolwyr o’r Sefydliad Arloesi Trawsnewid Data a Sefydliad Arloesi Sero Net.
Dywedodd y Dirprwy Is-ganghellor, yr Athro Damian Walford Davies, a’r Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter, fod y gynghrair yn cyd-fynd â nodau Sefydliadau Arloesi ac Ymchwil newydd y Brifysgol, sy’n ymroddedig i fynd i’r afael â heriau byd-eang.
“Mae ein sefydliadau a’r grwpiau ymchwil cysylltiol yn canolbwyntio ar atebion cymwys yn y byd go iawn sy’n llwyddo yn sgil cydweithio a phartneriaethau ac yn cyd-fynd â nodau DSV i gyrraedd Sero Net erbyn 2050 yn ei ddulliau gwaith yn ogystal ag ar draws y gadwyn werth,” meddai’r Athro Whitaker.
Ychwanegodd yr Athro Walford Davies: 'Mae'r Bartneriaeth Strategol hon yn sicrhau perthynas wydn a hirsefydlog rhwng Prifysgol Caerdydd a DSV. Yn ogystal â gweithgarwch newydd ar y cyd mewn meysydd sy’n hollbwysig i ymchwil prifysgol a dulliau gwaith DSV, mae’r bartneriaeth yn cynnig cyfleoedd cyffrous – logisteg ragorol, dyweder – i’n myfyrwyr a’n graddedigion.”
Mae’r bartneriaeth strategol yn ehangu’r perthnasoedd cydnerth a grëwyd gan Ysgol Busnes Caerdydd, ac mae’n gam arall ar y daith y mae’r ddau sefydliad wedi’i throedio gyda’i gilydd yn ystod y deng mlynedd diwethaf.
Dyma a ddywedodd yr Athro Aris Syntetos, Athro Ymchwil Nodedig a Chadeirydd DSV ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae gwaith Ysgol Busnes Caerdydd am ddegawd ar y cyd â DSV yn enghraifft wych o sut y gall byd diwydiant a’r byd academaidd dyfu gyda’i gilydd i ddatblygu cynnyrch a phrosesau newydd sy’n arwain at fanteision i’r ddwy ochr ond sydd hefyd yn cefnogi cynaliadwyedd cymdeithasol a phroses o droi’n fyd-eang i economi gylchol. Rydyn ni’n falch o fod wedi datblygu ymchwil sydd wedi cael effaith go iawn ar yr economi, yr amgylchedd a’r gymdeithas.”
Yn sgil y bartneriaeth, byddwn y Brifysgol yn gallu ystyried rhagor o gyfleoedd rhyngwladol, gan gynnwys symudedd y myfyrwyr a’r staff yn ogystal â chyfleoedd i hyrwyddo a gwella enw da Prifysgol Caerdydd yn rhyngwladol a’n cysylltiadau â sefydliadau addysg uwch rhyngwladol eraill.
Mae hefyd mewn sefyllfa ddelfrydol i gefnogi ecosystemau a chlystyrau perthnasol, bod yn ddylanwadol yn fyd-eang drwy ragoriaeth ymchwil, meithrin capasiti a’r manteision yn sgil ein henw da.
I gael rhagor o wybodaeth am waith PARC a RemakerSpace, cysylltwch â’r Athro Aris Syntetos SyntetosA@caerdydd.ac.uk neu ewch i’n tudalennau gwe: https://www.cardiff.ac.uk/cy/parc-institute-manufacturing-logistics-inventory