Staff a chyn-fyfyrwyr y Brifysgol yn cael eu henwi'n Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru
9 Mai 2023
Mae staff a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ymhlith y sawl a enwyd yn Gymrodyr a etholwyd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Mae'r 41 Cymrawd newydd yn cynnwys academyddion o blith prifysgolion Cymru a'r DU, awduron, ymchwilwyr ac arweinwyr o fyd addysg uwch, yn ogystal â'r gyfraith, meddygaeth a'r cyfryngau.
Yn y flwyddyn pan lansiodd y Gymdeithas ei hymrwymiad o ran Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant newydd, mae mwy na 50% o'r Cymrodyr newydd yn fenywod.
Yn ymuno â nhw mae'r Athro Hannah Fry, sef Cymrawd Anrhydeddus diweddaraf y Gymdeithas.
Staff Prifysgol Caerdydd fydd yn cael eu hethol yw:
- Yr Athro Alan Parker, Athro Firotherapïau Trosi yn yr Ysgol Meddygaeth;
- Alice Gray (BSc 2013), Uwch-swyddog Cyfathrebu yn swyddfa'r wasg yn y Brifysgol a Chyflwynydd/Awdur Gwyddoniaeth Lawrydd;
- Yr Athro Carol Featherston, Arweinydd Trafnidiaeth Gynaliadwy, Ysgol Peirianneg;
- Yr Athro Cathy Holt (BEng 1988, PhD 1993), Cyfarwyddwr Ymchwil Biomecaneg yn yr Ysgol Peirianneg;
- Dr Dawn Knight, Darllenydd Ieithyddiaeth Gymhwysol yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth
- Yr Athro Liana Cipcigan, Arweinydd Canolfan Ragoriaeth Cerbydau Trydan, Ysgol Peirianneg;
- Wendy Sadler (BSc 1994), Uwch Ddarlithydd, Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth
- Yr Athro Rossi Setchi (PhD 2000), Athro Gweithgynhyrchu Gwerthfawr yn yr Ysgol Peirianneg
Ymhlith cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd a fydd yn dwyn yr anrhydedd y mae:
- Kellie Beirne (BA 1997, MSc 2003)
- Sheila Hunt (MScEcon 1984)
- Andy Evans (BSc 1983)
- Dr Roger King (PhD 1988)
Dyma a ddywedodd yr Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru: “Rwy'n falch iawn o weld ehangder arbenigedd safon fyd-eang ein Cymrodyr newydd.
“Mae’r ystod o arbenigeddau yn wefreiddiol ac mae safon yr ymchwil yn eithriadol. Mae’n dangos cynifer o bobl arbennig iawn y gall Cymru fod yn falch ohonyn nhw, werth iddyn nhw gyfrannu eu syniadau, eu hangerdd a’u harbenigedd a bydd hyn yn dyfnhau diwylliant ein hymchwil ac o fudd i’r gymdeithas yng Nghymru a thu hwnt.
“Cafodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ei sefydlu ychydig dros ddegawd yn ôl ond rydyn ni’n chwarae rôl gynyddol wrth greu cyd-destun cynhyrchiol a chefnogol ar gyfer ymchwil o'r radd flaenaf yng Nghymru a bod yn llais gwybodus mewn trafodaethau polisi.
“Rwy'n falch iawn o groesawu ein Cymrodyr newydd i'r Gymdeithas ac edrychaf ymlaen at gydweithio gyda nhw yn ystod y blynyddoedd i ddod.”
Yn sgil y Cymrodyr newydd, bellach mae 687 o aelodau sy’n Gymrawd.