Fideo: Brexit a'r Undeb, Tensiynau a Heriau
5 Mai 2023
Trafodwyd effaith ddeinamig Brexit ar undeb y DG mewn digwyddiad academaidd yn Barcelona, lle roedd ymchwil yn tanlinellu bod y broses o dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd wedi creu effeithiau sylweddol ar gyfansoddiad tiriogaethol y DG.
Cymerodd dau athro o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, Richard Wyn Jones a Daniel Wincott ran, ochr yn ochr ag Ailsa Henderson a Charlie Jeffery, yn y gynhadledd a gynhaliwyd gan yr Institut d’Estudis de l’Autogovernment (Sefydliad Astudiaethau Hunanlywodraethol), canolfan ymchwil a gynhaliwyd gan lywodraeth Catalwnia.
Mae fideo llawn ar gael isod.