Adroddiad y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn archwilio cyngor cyfreithiol yn ystod y pandemig
24 Mai 2023
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi comisiynu academyddion o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth i gynnal yr ymchwiliad cyntaf i gyngor cyfreithiol cyfunol, gwasanaeth a ddatblygwyd yn ystod pandemig COVID-19.
Cyhoeddwyd yr adroddiad, Blended Advice and Access to Justice, gan Dr Daniel Newman a Danielle O'Shea o Brifysgol Caerdydd a Dr Jessica Mant o Brifysgol Monash, ym mis Ebrill. Mae'r adroddiad yn archwilio'r model 'cyngor cyfunol' a oedd ar waith yn ystod y pandemig. Roedd yn cynnwys cyngor cyfreithiol yn cael ei rannu drwy gyfuniad o ryngweithio wyneb yn wyneb a chyfathrebu o bell.
Yn ystod y cyfnod hwn ni chyflwynwyd un model o gyngor cyfunol a defnyddiwyd amrywiaeth o strategaethau ar wahanol gamau o'r broses gynghori. Mae'r adroddiad newydd yn archwilio sut mae'r modelau hyn wedi dod i'r amlwg ac wedi datblygu yn ystod y pandemig mewn 3 maes cyfraith allweddol: dyledion, budd-daliadau tai a budd-daliadau lles.
Dywedodd Dr Newman am yr adroddiad, "Mae materion sy'n gysylltiedig â dyled, tai a lles yn tueddu i ddod at ei gilydd ond cafodd hyn ei amlygu yn ystod y pandemig. Yn ystod y cyfnod hwnnw bu cynnydd yn nifer y bobl oedd yn ceisio cymorth. Nod ein hadroddiad yw archwilio'n ansoddol sut y gofynnodd pobl am gyngor ar y pynciau hyn dros y cyfnod, a sut ymatebodd sefydliadau cyngor."
Mae'r canfyddiadau a gyflwynwyd yn yr adroddiad yn deillio o grwpiau ffocws ac astudiaethau achos gydag ymgynghorwyr a weithiodd ar reng flaen darpariaeth cyngor a chyfweliadau â chleientiaid a dderbyniodd gyngor cyfunol yn ystod y pandemig.
Mae'r canfyddiadau'n rhoi cipolwg penodol ar sut mae sefydliadau cynghori wedi ymateb i'r pandemig trwy arloesi gyda modelau cynghori cyfunol. Yn ogystal â nodi enghreifftiau o fodelau sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd, mae'r adroddiad yn darparu amrywiaeth o safbwyntiau ynghylch effeithiolrwydd cyngor cyfunol ar gyfer helpu pobl i ddatrys problemau dyled, budd-daliadau tai a lles, yn ogystal â'r heriau a'r cyfleoedd posibl sy'n gysylltiedig â mwy o ddibyniaeth ar fodelau cyfunol yn y dyfodol.