Symposiwm Canser Prifysgol Caerdydd 2023: cyfle i’n hymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa arddangos eu gwaith ymchwil newydd arloesol
3 Mai 2023
Cynhaliwyd Symposiwm Canser 2023 Prifysgol Caerdydd yn adeilad Hadyn Ellis ddiwedd mis Mawrth, gan ddod ag ymchwilwyr academaidd a chlinigol ynghyd o bob rhan o Goleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd a thu hwnt.
Trefnwyd y digwyddiad gan Arweinwyr Thema Canser o’r Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau, Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC), y Ganolfan Meddyginiaethau Canser Arbrofol (ECMC) a’r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd (ECSCRI), ac roedd yn arddangos arbenigedd, gwybodaeth a chryfderau o bob rhan o Brifysgol Caerdydd, wrth hwyluso trafodaethau cyffrous a meithrin mentrau cydweithredol newydd.
Yn ystod y digwyddiad, cafodd dros 150 o bobl a oedd yn bresennol gyfle i glywed amrywiaeth o gyflwyniadau gan ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa o bob rhan o Brifysgol Caerdydd ar bynciau a oedd yn cynnwys: Darganfod Targedau Canser Newydd, Optimeiddio a Datblygu Triniaethau Canser Newydd, Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd, Data: sut gallwn ni ddysgu mwy gan bob claf? Modelu Clefydau a’u Canfod yn Gynnar ac Atal a Chanfod Canser. Roedd y diwrnod hefyd yn cynnwys arddangosfa posteri, gyda gwobrau am bosteri a chyflwyniadau gorau’r dydd.
Dyfarnwyd gwobrau i’r ymchwilwyr Dr Sarah Lauder, Dr Catia Neto a Dr Daniel Turnham am eu cyflwyniadau.
Siaradodd Sarah, Cydymaith Ymchwil o’r Isadran Haint ac Imiwnedd, a gyflwynodd yn y sesiwn ‘Darganfod Targedau Canser Newydd’, am ddefnyddio dull imiwnotherapi newydd gan ddefnyddio cyfuniad o foleciwl bach a gwrthgorff i hybu ymateb y system imiwnedd i ganser y fron. Dangosodd ei gwaith pa mor bwerus yw ymchwilio i fecanweithiau imiwnedd synergaidd i ddod o hyd i ddulliau newydd ac effeithiol o drin cleifion.
Cyflwynodd Catia, Cydymaith Ymchwil o’r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol ‘blatfform 3D amlgellog cyffrous sy’n deillio o iPSC i astudio tiwmorau ar yr ymennydd’. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar drin Glioblastoma lle mae hi wedi datblygu model organoid ymenyddol 3D sy’n deillio o fôn-gelloedd amlbotensial cymelledig i helpu i astudio amgylchedd tiwmorau GBM.
Yn olaf, cyflwynodd Dan, Cydymaith Ymchwil o’r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, Ysgol y Biowyddorau, yn y sesiwn ‘Optimeiddio a Datblygu Triniaethau Canser Newydd’ lle soniodd am ‘Gwerthusiad cyn-glinigol o gyfuniad cyffur-gwrthgyrff newydd ar gyfer canser y prostad.’ Mae ymchwil Daniel yn canolbwyntio ar ddatblygu cyfuniad cyffur-gwrthgyrff (ADC) cryf newydd sy’n targedu’r derbynnydd ar gyfer cynhyrchion terfynol glyceiddio uwch (RAGE). Wrth wneud hynny, mae’r ADC yn cael ei rymuso i gyflenwi cyffuriau sytotocsig yn benodol i ladd canser y prostad sy’n mynegi RAGE.
Dyfarnwyd gwobrau hefyd am y posteri ymchwil gorau gyda’r safle cyntaf yn mynd i Carwyn Hughes am ei boster ar ddatblygu nanogyrff ar gyfer targedu canserau’r fron HER2+, yr ail safle’n mynd i Maryam Alanazi a ddefnyddiodd ddulliau biowybodeg i edrych ar rôl riboniwcleoproteinau niwclear mewn lewcemia myeloid acíwt a’r trydydd safle’n mynd i Rebecca Wallace a ddisgrifiodd ddatblygiad feirysau oncolytig newydd.
Rhannau allweddol o’r diwrnod oedd yr egwyliau a’r lluniaeth ar ddiwedd y dydd, a oedd yn gyfle i ymchwilwyr ddod i adnabod ei gilydd wrth drafod y gwaith gwyddonol cyffrous a chynllunio’r camau nesaf.
Dywedodd y cyd-drefnydd Dr Helen Pearson :
“Roedd y symposiwm Canser yn gyfle gwych i bob ymchwilydd canser ar draws Caerdydd gyfarfod wyneb yn wyneb, cryfhau a meithrin cydweithrediadau newydd, ac i arddangos go iawn yr ystod amrywiol o astudiaethau pwysig sy’n cael eu cynnal. Roedd y sgyrsiau wir yn efelychu brwdfrydedd, ymroddiad ac angerdd ein ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa dros ymchwil canser. Mwynheais yn benodol ddysgu am ehangder prosiectau cyffrous ac arloesol myfyrwyr PhD yn ystod y sesiynau poster.”
Dywedodd yr Athro Mererid Evans, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Canser Cymru:
“Roedd Diwrnod Thema Canser Prifysgol Caerdydd yn ddigwyddiad gwych, ac roedd tîm Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) wrth eu bodd i fod yn rhan o helpu i ddod â phobl at ei gilydd i drafod a chydweithio ar y diwrnod. Fel Cyfarwyddwr y WCRC roeddwn yn hynod falch o gyflwyno ein strategaeth newydd (CReSt) yn ystod y sesiwn agoriadol ac amlygu rôl y Ganolfan wrth wneud y strategaeth honno’n realiti i ymchwilwyr a chleifion canser yng Nghymru.”
I gael gwybod mwy am ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd a Chanolfan Ymchwil Canser Cymru, ewch i’r wefan.
Os hoffech gael eich ychwanegu at restr bostio ymchwil canser Prifysgol Caerdydd, anfonwch e-bost at cancercomms@caerdydd.ac.uk