Lansio Hyb Arloesedd Seiber
3 Mai 2023
Yng Nghaerdydd heddiw lansiwyd yn ffurfiol Hyb Arloesedd Seiber (CIH) sy'n ceisio trawsnewid De Cymru i fod yn glwstwr blaenllaw.
Mae CIH yn canolbwyntio ar drawsnewid De Cymru yn glwstwr seiberddiogelwch blaenllaw erbyn 2030. Ei nod yw gwneud hyn gan greu cyflenwad o’r radd flaenaf o gynhyrchion seiberddiogelwch newydd, busnesau twf uchel, a thalent â sgiliau technegol.
Arweinir CIH gan Brifysgol Caerdydd ac fe'i hariennir gan Lywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR), ochr yn ochr â gwybodaeth gan bartneriaid megis Airbus, Sefydliad Alacrity, CGI, Thales, Tramshed Tech, a Phrifysgol De Cymru.
Ymunodd gwleidyddion, arweinwyr diwydiant, academyddion a chyllidwyr o bob cwr o'r DU â'r lansiad yn adeilad Abacws y Brifysgol.
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething: "Mae Llywodraeth Cymru'n falch o gyd-ariannu'r CIH yn ei ymgyrch i drawsnewid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn un o brif glystyrau seiber y DU erbyn 2030.
"Bydd gan CIH ran hanfodol mewn cefnogi economi Cymru drwy greu swyddi uchel eu gwerth a gweithlu medrus i fodloni gofynion y sector seiberddiogelwch.
"Bydd yr Hyb hefyd yn helpu i wireddu'r weledigaeth a nodwyd yng Nghynllun Gweithredu Seiber i Gymru a lansiwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru drwy hyrwyddo cydweithio a phartneriaethau cryf fel y gallwn adeiladu ar ein hecosystem seiber a'i datblygu, gan ddod â budd pellach fyth i'r economi a sicrhau dyfodol ffyniannus a gwydn i Gymru."
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £3 miliwn yn yr Hyb newydd dros 2 flynedd, gyda £3 miliwn o gyllid ar y cyd gan CCR a £3.5 miliwn o arian cyfatebol mewn da gan bartneriaid y consortiwm.
Pwysleisiodd Kellie Beirne, Prif Weithredwr, CCR, bwysigrwydd y clwstwr i'w ardal: "Mae CIH yn cynnig cyfle unigryw i ddod â phedair elfen gefnogol ynghyd - y byd academaidd, y llywodraeth, busnesau a chyfalaf - i greu strwythur ar gyfer creu menter newydd, arloesi a sgiliau sy'n rhoi mantais gystadleuol i CCR yn erbyn rhanbarthau eraill yn y DU."
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies AS: "Roeddwn yn falch iawn o fod yn bresennol yn y digwyddiad i lansio’r Hyb Arloesedd Seiber ym Mhrifysgol Caerdydd a chlywed am y potensial gwych i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ddod yn arweinydd mewn seiberddiogelwch, gan greu swyddi sy’n cynnig cyflog da mewn sector sy'n tyfu'n anhygoel o gyflym.
"Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd enw da iawn eisoes am seiberddiogelwch a bydd y ganolfan hon yn dod ag ymchwilwyr, arloeswyr a diddordebau busnesau ynghyd a bydd yn newid sylweddol i'r sector. Mae Llywodraeth y DU yn falch o fod wedi cyfrannu £3m sydd, ynghyd â'n partneriaid, wedi helpu i sicrhau hyn.”
Cydnabyddir Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru gan y Ganolfan Genedlaethol Seiberddiogelwch (rhan o GCHQ) fel Canolfannau Rhagoriaeth Academaidd ym meysydd ymchwil ac addysg.
Meddai’r Athro Pete Burnap, Cyfarwyddwr CIH: "Diolch i Lywodraeth Cymru a chefnogaeth CCR, mae gan CIH y cyfle i gyflymu twf y sector seiber yn Ne Cymru. Dyma gyfle unigryw i gyfuno’r arbenigedd presennol a'r buddsoddiadau yn y rhanbarth drwy weithio ar y cyd i sicrhau canlyniadau. Rydym yn anelu at dyfu nifer y cwmnïau seiberddiogelwch sydd wedi eu lleoli yng Nghymru o 50% ac uwchsgilio 1500 o bobl gyda sgiliau technegol ymarferol trwy gyfnodau hyfforddiant byr, fforddiadwy.
"Mae cwmnïau sector preifat a chyhoeddus bellach yn datblygu heriau seiber sy'n cael eu harwain gan y farchnad, rydym yn paru’r rhai sy’n creu’r syniadau gorau gyda thalent entrepreneuraidd i adeiladu timau sy'n datblygu IP o ansawdd uchel yn gyflym a chynhyrchion seiber newydd. Yn ystod y broses hon, rydym yn gweithio gyda'r ecosystem ariannu a’r busnesau sy'n cychwyn yng Nghymru i sicrhau bod y cwmnïau hyn yn datblygu’n bwrpasol ac yn gallu masnachu ledled y Byd.
"Mae CIH eisoes wedi cymryd camau breision yn y 6 mis ers i'r prosiect ddechrau. Mae’r gwaith o recriwtio staff ar y gweill a sefydlu byrddau cynghori a llywodraethu allanol o'r sector preifat a chyhoeddus. Rydym yn datblygu ein her gyntaf sy’n cael ei harwain gan y farchnad gyda thri busnes newydd yn seiliedig ar syniadau sy’n deillio o ymchwil PhD a gafodd eu harddangos yn y lansiad heddiw. Rydym hefyd yn datblygu arolwg i gyflogwyr ddarganfod mwy am yr anawsterau y maent yn eu hwynebu wrth recriwtio pobl â sgiliau seiber."
Yn ôl Dadansoddiad Sectoraidd Seiberddiogelwch o Lywodraeth y DU o 2022, mae tua 46 o fusnesau seiber cysylltiedig wedi'u cofrestru yng Nghymru, gan gyflogi 4% o'r holl weithwyr proffesiynol seiberddiogelwch sydd wedi'u lleoli yn y DU, gyda chyflog wedi'i hysbysebu ar gyfartaledd o £49,600. Mae CIH hefyd yn anelu at ddenu cwmnïau nad ydynt eto wedi’u lleoli yng Nghymru i symud yma, yn seiliedig ar y gweithgareddau datblygu talent arloesol, a fyddai'n creu mwy o swyddi gwerth uchel i bobl leol.
Mae'r Hyb Arloesedd Seiber wedi'i leoli yn sbarc|spark sy’n gartref i bobl dalentog sy'n creu mentrau newydd. Mae sbarc|spark yn cysylltu entrepreneuriaid, sefydliadau ac arweinwyr y sector cyhoeddus gydag ymchwilwyr o'r radd flaenaf a chynghorwyr proffesiynol.
I gael rhagor o wybodaeth am yr Hyb Arloesedd Seiber a'i gynlluniau ar gyfer y dyfodol, ewch i wefan yr Hyb.