Mae ‘parth y cyfnos’ mewn perygl oherwydd newid yn yr hinsawdd
27 Ebrill 2023
Hwyrach y bydd bywyd ym “mharth y cyfnos” yn y cefnfor yn dirywio’n aruthrol oherwydd newid yn yr hinsawdd, yn ôl ymchwil newydd.
Ychydig iawn o olau a gaiff parth y cyfnos (rhwng 200m a 1,000m o ddyfnder) ond mae'n gartref i ystod eang o organebau a biliynau o dunelli o ddeunydd organig.
Mae'r astudiaeth newydd yn rhybuddio y gallai newidiadau yn yr hinsawdd achosi gostyngiad o 20-40% ym mywyd parth y cyfnos erbyn diwedd y ganrif.
Ac yn y dyfodol pan fydd llawer iawn o allyriadau, hwyrach y bydd bywyd ym mharth y cyfnos yn cael ei ddisbyddu'n arw cyn pen 150 mlynedd, ac ni fydd adfer yn bosibl am filoedd o flynyddoedd.
“Cymharol ychydig a wyddom o hyd am barth cyfnos y cefnfor, ond gan ddefnyddio tystiolaeth o’r gorffennol gallwn ddeall beth fydd yn digwydd hwyrach yn y dyfodol,” meddai Dr Katherine Crichton, o Brifysgol Caerwysg, a phrif awdur yr astudiaeth.
Ymchwiliodd tîm yr ymchwil, sy'n cynnwys paleontolegwyr a modelwyr y cefnforoedd, i ba mor helaeth roedd bywyd ym mharth y cyfnos yn hinsoddau cynnes y gorffennol, gan ddefnyddio cofnodion yn sgîl cregyn microsgopig a gedwir yng ngwaddodion y cefnfor.
“Ymchwilion ni i ddau gyfnod cynnes yng ngorffennol y Ddaear, tua 50 miliwn o flynyddoedd yn ôl a 15 miliwn o flynyddoedd yn ôl,” meddai’r Athro Paul Pearson o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr Prifysgol Caerdydd, a arweiniodd yr ymchwil.
“Canfuon ni nad oedd parth y cyfnos bob amser yn gynefin cyfoethog llawn bywyd.
“Yn ystod y cyfnodau cynnes hyn, roedd llawer llai o organebau’n byw ym mharth y cyfnos oherwydd bod llawer llai o fwyd yn cyrraedd o ddyfroedd yr arwyneb.”
Mae anifeiliaid ym mharth y cyfnos yn bwydo’n bennaf ar ronynnau o ddeunydd organig sydd wedi suddo i lawr o wyneb y cefnfor.
Dangosodd yr astudiaeth fod y mater organig hwn yn dirywio'n llawer cyflymach oherwydd bacteria ym moroedd cynhesach y gorffennol – a oedd yn golygu bod llai o fwyd yn cyrraedd parth y cyfnos.
“Esblygodd yr amrywiaeth cyfoethog o fywyd ym mharth y cyfnos yn ystod yr ychydig filiynau o flynyddoedd diwethaf, pan oedd dyfroedd y cefnforoedd wedi oeri digon i ymdebygu i oergell, gan gadw’r bwyd am gyfnod hirach a gwella’r amodau sy’n caniatáu i fywyd ffynnu,” meddai Dr Crichton.
Yn sgil hyn, gofynnodd yr ymchwilwyr beth fydd yn digwydd i fywyd ym mharth y cyfnos mewn byd cynhesach yn y dyfodol.
Gan gyfuno’r dystiolaeth ar gyfnodau cynnes y gorffennol ag efelychiadau sy’n modelu System y Ddaear, efelychon nhw’r hyn sy’n digwydd nawr hwyrach ym mharth y cyfnos, a’r hyn a allai ddigwydd yn ystod y degawdau, y canrifoedd a’r milenia yn y dyfodol oherwydd y cynhesu yn yr hinsawdd sy’n digwydd yn sgil allyriadau nwyon tŷ gwydr.
“Mae ein canfyddiadau’n awgrymu ei bod yn bosibl bod cryn newidiadau eisoes ar y gweill,” ychwanegodd Dr Crichton.
“Oni bai ein bod yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn gyflym, hwyrach y bydd hyn yn arwain at ddiflaniad neu ddifodiant llawer o fywyd parth y cyfnos cyn pen 150 o flynyddoedd ac y bydd effeithiau am filoedd o flynyddoedd wedi hynny.
“Hwyrach y bydd hyd yn oed dyfodol allyriadau isel yn cael cryn effaith, ond byddai hynny’n llawer llai difrifol na sefyllfaoedd pan fydd allyriadau canolig ac uchel eu maint.
“Cam cyntaf yw ein hastudiaeth i wybod pa mor agored i niwed yw cynefin y cefnfor hwn i’r cynhesu sy’n digwydd yn yr hinsawdd.”
Mae’r tair sefyllfa ag allyriadau yn yr astudiaeth yn seiliedig ar gyfanswm yr allyriadau carbon deuocsid ar ôl 2010. “Isel” yw 625 biliwn o dunelli, “canolig” yw 2,500 biliwn o dunelli, ac “uchel” yw 5,000 biliwn o dunelli.
Cafodd yr astudiaeth newydd ei hariannu gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) ac mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerwysg, Lerpwl, California Riverside, Bremen, Caerdydd, a Choleg Prifysgol Llundain yn rhan ohoni.
Teitl y papur, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Nature Communications, yw: “What the geological past can tell us about the future of the ocean’s twilight zone.”