Y Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Troseddu a Chudd-wybodaeth, wedi’i lansio’n swyddogol
12 Mai 2023
Mae Prifysgol Caerdydd wedi lansio sefydliad arloesedd sy’n torri tir newydd; bwriad y sefydliad yw mynd i’r afael â’r bygythiadau newydd hynny ym maes trosedd, diogeledd a diogelwch cymunedol sy’n dod i’r amlwg o ganlyniad i ddataeiddio cymdeithas a lledaenu twyllwybodaeth.
Mae Prifysgol Caerdydd yn falch o lansio'r Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Troseddu a Chudd-wybodaeth, yn swyddogol. Mae'r Sefydliad yn dwyn unedau ymchwil rhyngddisgyblaethol o'r radd flaenaf ynghyd i ddatblygu atebion arloesol i broblemau troseddu, diogelwch byd-eang, a rheolaeth gymdeithasol.
Mae dyluniad rhyngddisgyblaethol y Sefydliad yn dod ag arbenigwyr o wahanol ddisgyblaethau academaidd, gan gynnwys troseddeg, cyfrifiadureg, cyfathrebu strategol, a gwyddor ymddygiadol, ynghyd, er mwyn mynd i'r afael â heriau'r byd go iawn. Mae ei arbenigwyr yn gweithio i ddylunio a chreu atebion creadigol sydd wedi'u targedu ar gyfer rhai o'n heriau diogelwch cyhoeddus mwyaf brys, ac i helpu hefyd i lunio newidiadau sylweddol i bolisïau ac ymarfer yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Mae gwaith y Sefydliad yn seiliedig ar bedair thema allweddol:
- Plismona – mae Sefydliad y Prifysgolion ar Wyddorau’r Heddlu yn gweithio gydag asiantaethau plismona yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i dreialu a phrofi arloesedd yn ymwneud â pholisïau ac ymarfer o ran gwella’r hyn sy’n atal troseddu, ac ymatebion i droseddau.
- Trais – mae gan ein Grŵp Ymchwilio i Drais enw da a phrofiad rhyngwladol sylweddol o gynnal astudiaethau methodolegol soffistigedig sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n ysgogi effaith yn y byd go iawn o ran lleihau trais.
- Amddiffyn – mae’r Grŵp Dadansoddeg a Gwyddor Gwybodaeth Wasgaredig ar flaen y gad o ran manteisio ar Ddeallusrwydd Artiffisial ar gyfer y sector amddiffyn, ac yn gweithio mewn cydweithrediad agos â phartneriaid yn y diwydiant ac yn y llywodraeth.
- Bygythiadau o ran Gwybodaeth – mae’r Rhaglen Ymchwil Twyllwybodaeth, Cyfathrebu Strategol a Ffynhonnell Agoredyn rhaglen sy’n herio twyllwybodaeth ac yn herio gwyrdroi gwybodaeth sy’n dylanwadu’n niweidiol ar ein hetholiadau democrataidd, gan gynnwys ein polisïau ar iechyd cyhoeddus, newid yn yr hinsawdd a diogelwch cenedlaethol.
Roedd y lansiad, a gynhaliwyd ddydd Iau 20 Ebrill, yn arddangos y gwaith gwerthfawr sy'n cael ei wneud gan y sefydliad, a chafwyd cyflwyniadau gan bob un o'r Cyd-gyfarwyddwyr, yn ogystal â gweithdai wedi'u hanelu at sefydlu effaith yn y byd go iawn. Ymhlith y gwesteion roedd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, a chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a Heddlu De Cymru.
Dywedodd yr Athro Martin Innes, Cyd-gyfarwyddwr Arweiniol y sefydliad: “Mae dyfodiad yr oes wybodaeth yn creu heriau cymdeithasol a thechnolegol newydd dwys sy'n effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd ar lefelau lleol, cenedlaethol a byd-eang. Nod y Sefydliad yw cynnig dirnadaeth a thystiolaeth arloesol gan alluogi gwell dealltwriaeth o'r heriau hyn a gwell ymatebion iddynt."
Mae’r Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Troseddu a Chudd-wybodaeth yn rhan o fuddsoddiad gwerth £5.4 miliwn gan Brifysgol Caerdydd; arian sydd wedi’i fuddsoddi mewn pum sefydliad