Cymrodoriaeth er Anrhydedd i gyn-bennaeth yr ysgol
25 Ebrill 2023
Mae cyn-bennaeth Ysgol y Gymraeg, yr Athro Sioned Davies, wedi’i hurddo yn Gymrawd er Anrhydedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mewn digwyddiad a gynhaliwyd ddydd Mawrth 21 o Fawrth yn y Tramshed yng Nghaerdydd, cafodd yr Athro Davies ei hurddo am ei chyfraniad oes i addysg ôl-orfodol cyfrwng Cymraeg.
Cafodd yr Athro Davies ynghyd â chyn-gadeirydd y Coleg, Dr Haydn Edwards, a chyn is-gadeirydd Bwrdd Academaidd y Coleg, Delyth Murphy, eu hurddo yn Gymrodyr er Anrhydedd.
Yr Athro Sioned Davies oedd y ddynes gyntaf erioed i fod yn Athro yn y Gymraeg ac wedi iddi fod yn bennaeth Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd am 20 mlynedd, ymddeolodd yn 2019. Cafodd ei chydnabod am ei chyfraniad o fwy na 40 mlynedd, bron iawn, o ddysgu a gwaith ymchwil yn yr ysgol.
Dywedodd yr Athro Davies, “Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Coleg Cymraeg am yr anrhydedd personol hwn. Rwy wedi bod yn ffodus i gael nifer o gyfleoedd gwych yn ystod fy ngyrfa, a heb gymorth staff Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, byddai cyflawni unrhyw beth wedi bod yn anodd. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Coleg a chyfrannu at y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud.”