Mynd i'r afael â'r angen am arweinwyr wrth inni symud i Sero Net drwy lansio MSc newydd
24 Ebrill 2023
Mae’r byd yn wynebu argyfwng hinsawdd, a bellach mae angen gweithredu ar frys i fodloni ymrwymiad y Cenhedloedd Unedig i sicrhau sero net erbyn 2050.
Er mwyn newid i fod yn fyd sero net, mae’n rhaid inni drawsnewid y ffordd rydyn ni’n defnyddio, yn cynhyrchu ac yn teithio. Ond i wneud hyn, mae angen meddylwyr arloesol arnon ni sydd â'r wybodaeth a'r arbenigedd cywir a all roi atebion creadigol i frwydro yn erbyn un o heriau mwyaf y byd - nid yn unig o ran lleihau allyriadau carbon, ond eu torri i sero.
Mae ein Sero Net drwy lansio MSc newydd, sy’n cael ei lansio ym mis Medi 2023, wedi’i anelu at fyfyrwyr sy’n gwneud newidiadau arloesol, sydd eisiau cyfrannu at y broses newid ynni newydd, a’i harwain hyd yn oed. Mae'n ymateb i'r angen cynyddol am raddedigion â'r wybodaeth beirianyddol a gwyddonol i ddatblygu atebion realistig a fydd yn trawsnewid ein cymdeithas bresennol sy’n defnyddio llawer o garbon.
Bydd myfyrwyr ar y cwrs yn cael profiad o addysgu sy’n seiliedig ar ymchwil ar feysydd allweddol a phroblemau sy’n rhan o newid yn yr hinsawdd. Yn rhyngddisgyblaethol ei natur, bydd myfyrwyr o gefndiroedd gwahanol yn cael eu hannog i gydweithio â’i gilydd, gan adlewyrchu'r ffyrdd y mae timau cyfunol sy’n gweithio tuag at amcanion a rennir yn arwain prosiectau arloesi diweddar. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnig y cyfle i gydweithio â sefydliadau peirianneg ar broblemau a phrosiectau gwirioneddol sy'n berthnasol i'r diwydiant.
Cewch ragor o wybodaeth am y rhaglen mewn gweminar a gynhelir ddydd Iau 3 Mai am 11:00. Dewch i wybod rhagor a chofrestru drwy Zoom.