Caerdydd yn rhan o Wellcome Leap
20 Ebrill 2023
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymuno â rhwydwaith byd-eang sy'n ymroi i wneud darganfyddiadau ym maes iechyd pobl dros y degawd nesaf.
Rhwydwaith Arloesi Iechyd Wellcome Leap yw'r rhwydwaith ymchwil iechyd mwyaf sy'n gweithredu'n gyflymaf yn y byd.
Mae Caerdydd ymhlith 15 sefydliad yn y DU sydd wedi ymrwymo i Wellcome Leap, sefydliad dielw a sefydlodd Ymddiriedolaeth Wellcome i wneud datblygiadau ym maes iechyd pobl.
Gall rhaglenni ymchwil gael eu llesteirio gan rwystrau. Fel arfer, gall gymryd dros flwyddyn i gwblhau ac arwyddo cytundeb ariannu mawr. Ar ben hynny, mae 'darnau jig-so' allweddol fel gwybodaeth unigol arbenigol neu gyfranogiad sefydliadol llai, yn gallu cael eu gadael allan o geisiadau mawr. Mae angen momentwm, a galluoedd amrywiol ar gyfer datblygiadau arloesol, lle bynnag y bo'n fyd-eang.
Yn ôl yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil ar gyfer Arloesedd a Menter Prifysgol Caerdydd: "Mae academyddion o ystod o ddisgyblaethau yng Nghaerdydd wedi dod at ei gilydd i daclo rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu cymdeithas. Bydd Wellcome Leap yn helpu i gael gwared ar rwystrau i symud ymlaen, gan gynnig mynediad cyflym at gyllid a all siafio misoedd oddi ar amserlenni datblygu. Mae atebion ymchwil uchelgeisiol yn y dyfodol yn cydseinio'n berffaith â buddsoddiad diweddar Caerdydd yn Sefydliadau Ymchwil ac Arloesedd Prifysgolion (URIIs), gan wneud y gorau o'n heffaith fyd-eang."
Bydd Rhwydwaith Arloesi Iechyd Wellcome Leap yn helpu i waredu rhwystrau drwy'r Cytundeb Cyllid Ymchwil Academaidd Meistr cyntaf o'i fath, sy'n mynd i'r afael yn deg â'r holl delerau ac amodau, gan gynnwys eiddo deallusol, perchnogaeth, a chyhoeddi.
Bydd angen i unrhyw ymchwilydd neu grŵp o Brifysgol Caerdydd drafod dim ond y datganiad o waith a'r gost cyn y gall y gwaith ddechrau'n aml mewn dyddiau, gan gwtogi misoedd neu fwy oddi ar amserlenni datblygu.
URIIs Caerdydd yw'r Sefydliad Arloesedd Trawsnewid Digidol, sy’n canolbwyntio ar atebion yn y byd go iawn sy’n creu newidiadau cymdeithasol ac economaidd wirioneddol foesegol, diogel a chadarnhaol; y Sefydliad Arloesedd Sero Net, sydd wedi ymroi i gyflawni sero net ar lefel dechnolegol a chymdeithasol; y Sefydliad Arloesedd ym meysydd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl, sy’n mynd i'r afael ag afiechyd meddwl ac anhwylderau niwroddirywiol; Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Trosedd a Chudd-wybodaeth, sy’n datblygu atebion i droseddu, diogelwch byd-eang, a rheolaeth gymdeithasol, a'r Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau, sy’n trawsnewid diagnosis, triniaeth ac ansawdd bywyd cleifion.
Mae'r sefydliadau wedi'u lleoli yn rhai o gyfleusterau mwyaf arloesol Prifysgol Caerdydd, yn cynnwys sbarc|spark sy'n dod ag ymchwilwyr, entrepreneuriaid, busnesau newydd myfyrwyr, a busnesau deillio academaidd at ei gilydd; y Ganolfan Ymchwil Drosi sy'n casglu arweinwyr y diwydiant a gwyddonwyr ynghyd i ddod o hyd i atebion gwyddonol cydweithredol i gyflawni sero-net; Adeilad Hadyn Ellis sy'n dwyn ynghyd arbenigwyr mewn cyflyrau fel sgitsoffrenia, clefyd Alzheimer ac ymchwil canser bôn-gelloedd; a Champws Parc y Mynydd Bychan sy'n gartref i Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.