Mae achosion o drais difrifol wedi codi yng Nghymru a Lloegr
18 Ebrill 2023
Mae trais difrifol yng Nghymru a Lloegr wedi cynyddu 12%, a bron yn dychwelyd i lefelau cyn-COVID, yn ôl adroddiad newydd gan Brifysgol Caerdydd.
Canfu Grŵp Ymchwil Trais y Brifysgol bod ar amcangyfrif, 164,723 o bobl wedi mynd i Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys yng Nghymru a Lloegr oherwydd anaf yn gysylltiedig â thrais yn 2022, cynnydd o 17,867 neu 12% ers 2021. Mae’r cynnydd hwn yn dilyn cynnydd tebyg yn y flwyddyn flaenorol – yr unig dro i hyn ddigwydd mewn blynyddoedd olynol ers 2001.
Cynyddodd trais difrifol ymhlith pob grŵp oedran yn sylweddol yn 2022, o gymharu â 2021 – gan gynnwys cynnydd o 79.6% yn y rhai 0-10 oed, cynnydd o 24.5% yn y rhai 11-17 oed, cynnydd o 3.8% ymhlith y rhai 18-30 oed, cynnydd o 14.4% yn y rhai 31-50 oed, a chynnydd o 17% yn y rhai dros 51 oed.
Mae’r adroddiad ar drais difrifol yng Nghymru a Lloegr yn 2022 yn seiliedig ar ddata o 88 o Adrannau Achosion Brys, Unedau Mân Anafiadau a Chanolfannau Galw Heibio.
Dywedodd yr Athro Jonathan Shepherd, Grŵp Ymchwil Trais Prifysgol Caerdydd a chyd-awdur yr adroddiad: “Ers 2000, ac yn cynnwys cyfnod yr epidemig COVID-19, data a gasglwyd mewn adrannau achosion brys ysbytai yw’r unig ffynhonnell ddibynadwy a chyson o wybodaeth am anafiadau a achoswyd gan drais yng Nghymru a Lloegr.
“Yng nghyfnod yr epidemig COVID-19, gostyngodd trais yn serth yn ystod y cyfyngiadau iechyd cyhoeddus, gan ostwng o amcangyfrif o 175,764 o bobl a gafodd driniaeth am anafiadau a achoswyd gan drais yn 2019 i 119,111 yn 2020. Yn 2021, pan oedd y cyfyngiadau hyn bron â dod i ben, cynyddodd trais difrifol, 23%.
“Rydym wedi gweld cynnydd pellach mewn trais yn 2022, gyda chyfanswm o 41,628 o bobl yn cael eu trin am anafiadau a achoswyd gan drais yn yr 88 o Adrannau Achosion Brys, Unedau Mân Anafiadau a Chanolfannau Galw Heibio yn ein hastudiaeth.”
Canfu'r adroddiad fod trais difrifol - yn enwedig yn effeithio ar ddynion - yn bennaf ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. Roedd trais difrifol ar ei anterth hefyd ym mis Mai a mis Gorffennaf. Canfu’r tîm fod cynnydd mewn trais difrifol yn parhau i gyd-fynd â mesurau ymlacio COVID-19 yn 2022.
“Rhwng 2021 a 2022, bu cynnydd o 12% mewn trais yng Nghymru a Lloegr, cynnydd mewn anafiadau treisgar ar draws pob grŵp oedran a rhyw. Bu cynnydd mwy ymhlith plant 0-10 oed a chynnydd llai mewn oedolion 18-30 oed o gymharu â grwpiau oedran eraill.
“Ar y cyfan, mae’r cynnydd bron yn ôl i lefelau trais a welwyd yn union cyn epidemig COVID-19. Yn 2022, roedd trais difrifol dim ond 6.2% yn is na’r lefelau cyn-COVID yn 2019,” ychwanegodd yr Athro Jonathan Shepherd.
Mae'r tîm yn awgrymu bod eu canfyddiadau, ynghyd â'r gwersi a ddysgwyd o'r pandemig COVID-19, yn tynnu sylw at yr angen i gryfhau'r gwaith o atal trais y tu allan i'r cartref, yn enwedig ar benwythnosau ac yn economi'r nos. Mae hefyd angen atal trais lle mae plant yn cael eu hanafu y tu allan i'r cartref, gan gynnwys y rhai o oedran ysgol gynradd ac mewn ysgolion ac o’i amgylch.
Ychwanegodd yr Athro Shepherd: “Y neges bwysicaf o oes COVID-19 o ran trais, yw y gellir ei atal. Nid yw trais yn anochel.
“Bydd targedu ymdrechion atal yn lleihau ei feichiau ar ddinasyddion, teuluoedd ac ar draws gwasanaethau cyhoeddus, ac yn enwedig ar adrannau achosion brys costus mewn ysbytai sydd dan bwysau mawr.”
Mae'r unfed adroddiad ar hugain blynyddol hwn ynghylch trais difrifol yng Nghymru a Lloegr yn cael ei gynhyrchu gan y Grŵp Ymchwilio i Drais. Mae'n cynnwys data o'r Rhwydwaith Arolygu Trais Cenedlaethol, dan arweiniad yr Athro Vaseekaran Sivarajasingam o Brifysgol Caerdydd.