Yr hyn a ddysgon ni yn sgîl y cyfnodau clo am anifeiliaid sy'n cael eu lladd ar y ffyrdd
18 Ebrill 2023
Oherwydd y cyfnodau clo ledled y DU, cafodd gwyddonwyr y cyfle unigryw i arsylwi ar fywyd gwyllt heb draffig ar y ffyrdd, gan daflu goleuni ar y nodweddion penodol sydd gymaint yn rhan o rywogaethau eiconig Prydain - megis moch daear a ffesantod - sy’n fwy tebygol o fod mewn gwrthdrawiad â cherbydau.
Defnyddiodd ymchwilwyr yn The Road Lab ym Mhrifysgol Caerdydd ddata o gofnodion anifeiliaid sy'n cael eu lladd ar y ffordd i asesu'r 19 rhywogaeth o fywyd gwyllt sydd mewn gwrthdrawiad â cherbydau ran amlaf, a hynny i ddeall pa newidiadau a gafwyd yn nifer y marwolaethau ar y ffyrdd yn ystod dau gyfnod clo o bwys (Mawrth- Mai 2020 a Rhagfyr 2020 – Mawrth 2021). Drwy gymharu cyfraddau'r cyfnodau clo â'r un adegau mewn blynyddoedd blaenorol (2014-2019), roedden nhw’n gallu adnabod y nodweddion hynny sy'n golygu bod rhywogaethau mewn mwy o berygl o gael eu lladd ar y ffordd.
Dyma a ddywedodd Sarah Raymond, myfyrwraig ymchwil yn Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd a arweiniodd yr ymchwil: “Roedd gwrthdrawiadau cerbydau â bywyd gwyllt 80% yn is yn ystod y cyfnodau clo o ran pob rhywogaeth, ac nid yw hynny'n syndod o ystyried y gostyngiad dramatig yn y traffig. Ond oherwydd y cyfnodau clo, cafwyd amodau arbrofol na fydden nhw fel arall wedi bod yn bosibl unrhyw adeg arall. Gan nad oedd ceir ar y ffordd, cawson ni’r cyfle i ddeall pa nodweddion bywyd gwyllt yn y DU sy'n arwain at y ffaith eu bod mewn mwy o berygl o gael eu taro gan gar.
“Yn ystod y cyfnodau clo, canfuon ni fod llai o gofnodion o famaliaid nosol, anifeiliaid sy'n ymweld â lleoedd trefol, mamaliaid â mwy o fàs yr ymennydd ac adar y mae angen rhagor o bellter arnyn nhw i gychwyn hedfan.
“Mae rhywogaethau sydd â nifer o'r nodweddion hyn - megis moch daear, llwynogod a ffesantod - yn fwy tebygol o gael eu taro gan geir a nhw felly sydd â'r gyfradd uchaf o farwolaethau pan fydd lefelau’r traffig yn rhai arferol. Felly mae'n ymddangos bod y rhywogaethau hyn wedi elwa fwyaf ar y cyfnodau clo, ac felly'n dioddef fwyaf yn ystod yr adegau 'arferol'.”
Oherwydd y saib dros dro yn y traffig yn ystod y cyfnodau clo, roedd y gwyddonwyr yn gallu adnabod yn fanwl pa fywyd gwyllt oedd fwyaf mewn perygl o fod mewn gwrthdrawiad. Gall y data helpu’r broses o lywio cadwraeth bywyd gwyllt mewn cymdeithas sy'n cael ei dominyddu gan ffyrdd.
“Mae'r DU yn wlad lle mae 398,359km o ffyrdd ac mae 39.2 miliwn o berchnogion ceir. Manteisiodd yr astudiaeth hon ar y cyfle unigryw i weld beth sy'n digwydd pan aeth y gymdeithas hon, sy'n cael ei dominyddu gan ffyrdd, yn dawel. Dangoson ni’r effaith y mae'r cerbydau hyn yn ei chael ar rywogaethau bywyd gwyllt poblogaidd Prydain rydyn ni’n eu caru gymaint. Ond ar ben hynny dangoson ni fod y risgiau’n seiliedig ar nodweddion.
“Drwy ddeall yr hyn sy'n peri i rai rhywogaethau fod yn fwy agored i gael eu lladd ar y ffordd, gall hyn ein helpu i lunio ymdrechion cadwraeth mwy penodol a’r gobaith yw y bydd hyn yn helpu gwarchod bywyd gwyllt Prydain,” ychwanegodd Sarah.
Astudiaeth ar y cyd oedd hon rhwng Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Lerpwl a Phrifysgol Caerwysg. Cyhoeddir y papur, The impact of the COVID-19 lockdowns on wildlife-vehicle collisions in the UK, yn Journal of Animal Ecology.