Gwella dysgu a lles plant awtistig
18 Ebrill 2023
Mae’r canllaw seiliedig ar dystiolaeth cyntaf hwn ynghylch creu ystafelloedd synhwyraidd i gefnogi lles a dysg pobl awtistig, wedi’i lansio.
Bu Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn cydweithio ag athrawon a seicolegwyr sy’n gweithio gyda phlant awtistig, pobl awtistig a rhieni i ddatblygu’r canllaw newydd ar gyfer ystafelloedd synhwyraidd.
Nod yr adnodd yw seilio datblygiad ystafelloedd synhwyraidd mewn ymchwil - rhywbeth nad yw wedi bodoli hyd yn hyn – i helpu rhieni ac ymarferwyr i wneud y mwyaf o fudd gofodau synhwyraidd ar gyfer unigolion awtistig.
Dywedodd Dr Catherine Jones, Cyfarwyddwr, Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd a arweiniodd y gwaith o ddatblygu’r canllaw: Gofod pwrpasol yw ystafell synhwyraidd, ac ynddo mae offer synhwyraidd sy’n trawsnewid yr amgylchedd ac yn ysgogi’r synhwyrau a hynny mewn amryw o wahanol ffyrdd. Mae’n ofod addasol, sy’n newid y mathau o offer a’r symiau o ran yr ysgogi, i ddiwallu anghenion y defnyddiwr.”
Defnyddir ystafelloedd synhwyraidd yn helaeth mewn ysgolion sy'n cefnogi disgyblion ag anghenion ychwanegol, yn ogystal â mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol a gofal ar gyfer oedolion a phlant, ond doedd dim canllaw’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer creu’r rhain. Ein nod oedd datblygu canllaw, yn seiliedig ar ymchwil, i helpu addysgwyr i sicrhau eu bod yn gallu defnyddio ystafelloedd synhwyraidd i'w llawn botensial, ac i sicrhau bod y budd mwyaf yn cael eu gwneud o’r ystafelloedd hyn ar gyfer dysgu a lles.
Yn sail i’r canllaw ar gyfer ystafelloedd synhwyraidd mae ymchwil Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru i'r defnydd o ddarnau allweddol o offer amlsynhwyraidd – megis tiwbiau swigod, peli drych, opteg ffibr a waliau cyffwrdd. Mae hefyd yn archwilio manteision posibl defnyddio ystafelloedd synhwyraidd gyda disgyblion awtistig, gan gynnwys newidiadau cadarnhaol o ran ymgysylltiad a sylw, hwyliau a gorbryder, a meithrin perthnasoedd.
Ynghyd ag ymarferwyr, bu ymchwil myfyrwyr PhD yn sail i ddatblygiad y canllaw ac mae'r tîm yn gobeithio y bydd yn helpu ymarferwyr a rhieni sy'n chwilio am arweiniad ar sut i ddefnyddio ystafelloedd synhwyraidd gyda phlant awtistig.
Ychwanegodd Dr Jones: “Rydyn ni’n credu y dylai ystafelloedd synhwyraidd ganolbwyntio ar gefnogi cyfleoedd i wella datblygiad, dysgu a lles pobl awtistig - ac rydym yn cefnogi ymagwedd niwroamrywiaeth-gadarnhaol at addysg. Mae ystafelloedd synhwyraidd yn fannau delfrydol ar gyfer cefnogi disgyblion niwroamrywiol, a hynny heb nifer o’r amodau amgylcheddol bywyd bob dydd a all fod yn rhwystr o ran datblygu, dysgu a lles.
Lansiwyd y canllaw ar Ebrill 19 2023 a gellir ei gyrchu yma
Un o'r lleoedd cyntaf i ddefnyddio'r canllaw newydd yw Canolfan Gymunedol Cathays, cyfleuster sy'n cefnogi'r gymuned yn Cathays a chanol Caerdydd.
Dywedodd Bridie Smith, Rheolwr Ystafelloedd Synhwyraidd gyda Phrosiectau Ieuenctid a Chymunedol Cathays: “Bydd y canllaw yn rhoi’r offer a’r wybodaeth angenrheidiol i ni baratoi ar gyfer agor ein cyfleuster synhwyraidd, a’i ddatblygiad parhaus.”
Ychwanegodd Dr Jones: “Rydym mor falch o gael nid yn unig darparu’r canllaw wedi’i arwain gan ymchwil cyntaf hwn ar gyfer creu ystafelloedd synhwyraidd, y gellir ei ddefnyddio’n rhyngwladol, ond hefyd i fod wedi cynnwys plant awtistig, rhieni ac ymarferwyr addysgol yn y broses.
“Mae’r prosiect hwn wedi dangos sut y gellir trosi ymchwil a’i gymhwyso’n uniongyrchol i gymwysiadau bywyd go iawn, gan wella dysgu a lles plant awtistig.”