Mae’r broses o adfer yn sgîl llygredd mewn afonydd yn arafu
14 Ebrill 2023
Mae ymchwil newydd wedi canfod bod afonydd yng Nghymru a Lloegr wedi adfer yn fiolegol yn sgîl llygredd ers dechrau'r 1990au, ond mae'n ymddangos bod y gwelliannau wedi arafu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ymchwiliodd ymchwilwyr o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd i infertebratau sy'n byw ar welyau afonydd ledled Cymru a Lloegr. Dadansoddon nhw ddata bron i 50,000 o samplau infertebratau a gasglwyd mewn tua 4,000 o nentydd ac afonydd.
Dyma a ddywedodd Emma Pharaoh, ymchwilydd PhD o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd:"Mae infertebratau yn ddangosyddion pwysig o iechyd afonydd gan eu bod yn adlewyrchu llygredd ac effeithiau dynol eraill. Drwy edrych ar y mathau o infertebratau sy'n byw ar wely'r afon, gallwn ni ddeall yn eithaf da sut beth yw iechyd yr afonydd.
"Hyd at 2018, cynyddodd nifer y teuluoedd o infertebratau yn ein hafonydd 10% bron iawn ac ymhlith y rhain roedd mwy o infertebratau sy'n sensitif i lygredd. Er mai afonydd trefol yw’r rhai mwyaf llygredig yn hanesyddol, canfuon ni hefyd fod y gwelliannau mwyaf wedi digwydd ynddyn nhw, a’u bod yn agosach felly i ansawdd afonydd gwledig."
Dangosodd yr ymchwil yr ymddengys bod rhai gwelliannau mewn afonydd yng Nghymru a Lloegr wedi arafu a bod hyn efallai’n adlewyrchu effaith problemau newydd o ran ansawdd dŵr yn sgîl carthffosydd cyfun sy’n gorlifo, byd amaethyddiaeth, newid yn yr hinsawdd a mathau newydd o lygredd – megis microblastigau neu nwyddau fferyllol.
Yn ôl Ian Vaughan o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd: "Newyddion calonogol yw'r canlyniadau hyn am afonydd, a hynny o ystyried mai newyddion drwg yn aml a geir. O ystyried y problemau parhaus, gan gynnwys ansawdd y dŵr a newidiadau yn yr hinsawdd, mae afonydd yn wynebu llawer o heriau. Mae'r canlyniadau hyn yn dangos sut y gall bioamrywiaeth adfer os bydd ansawdd yr amgylchedd yn gwella."
Defnyddiodd yr astudiaeth ddata Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru, gan ddiweddaru dadansoddiad o 10 mlynedd yn ôl hefyd gan Brifysgol Caerdydd a oedd yn caniatáu i'r ymchwilwyr astudio tueddiadau dros ddegawdau ac mewn sawl gwlad.
"Mae data y bydd cyrff rheoleiddio megis Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru yn ei gasglu’n adnodd hynod werthfawr i ymchwilwyr. Mae’r data yn rhoi cipolwg amhrisiadwy ar sut mae bioamrywiaeth afonydd wedi newid, er gwell neu waeth, dros amser. Gallwn ni ddefnyddio’r data i helpu i lywio’r broses o reoli polisïau a chadwraeth," ychwanegodd Emma Pharo.
Dyma a ddywedodd Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisïau a Chynllunio Cyfoeth Naturiol Cymru: “Er ein bod wedi gwneud cynnydd da o ran diogelu a gwella ein dyfroedd yn ystod y degawdau diwethaf, mae'r astudiaeth hon yn ein hatgoffa'n glir bod ffordd bell i fynd eto.
“Efallai y bydd yr heriau sy'n wynebu ein hafonydd yn newid gyda threigl amser, ond mae'r angen i gymryd camau cydnerth ar y cyd i'w gwarchod yn parhau.
“Dyma adeg dyngedfennol ar gyfer newidiadau, nid hunanfodlonrwydd, ac mae’n gyfle unwaith eto i gyflymu gwelliannau yn ein hafonydd. Yng Nghymru rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â Byrddau Rheoli Maetholion i warchod ein hafonydd mwyaf gwerthfawr mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, gan adfer afonydd eiconig eraill yn ein prosiect blaenllaw Pedair Afon LIFE a mynd i'r afael â llygredd dŵr gwastraff drwy Dasglu Gwella Ansawdd Afonydd Cymru.
“Mae’n rhaid i bob un ohonon ni gydweithio ac ymateb i'r heriau – hen a newydd – sy'n wynebu ein hafonydd a'n bywyd gwyllt os ydyn ni eisiau eu hachub ar gyfer y cenedlaethau a ddêl.”
Ychwanegodd yr Athro Steve Ormerod, Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd a Dirprwy Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae’r gwelliannau mewn afonydd trefol ers dechrau'r 1990au yn adlewyrchu effeithiau cyfunol dirywiad diwydiannol a gwell rheoleiddio a buddsoddi yn y gwaith o drin dŵr gwastraff.
"Ond mae’r arwyddion bod hyn wedi arafu’n ddiweddar yn dangos bod angen gweithredu pellach arnon ni - yn enwedig gan reoleiddwyr, cwmnïau dŵr a byd amaethyddiaeth - i adfer y tueddiadau cadarnhaol a’u cynnal."
Cyhoeddwyd yr ymchwil, Evidence of biological recovery from gross pollution in English and Welsh rivers over three decadesyn Science of the Total Environment.