Ewch i’r prif gynnwys

McAllister yn cael ei hethol i Bwyllgor Gweithredol UEFA

6 Ebrill 2023

Mae Laura McAllister, Athro Polisi Cyhoeddus a rhan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, wedi'i hethol i Bwyllgor Gweithredol UEFA yn 47ain Cyngres y corff llywodraethu yn Lisbon, Portiwgal.

Mae cyn-gapten tîm cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd yn gyd-gadeirydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, ac mae hefyd yn parhau i fod yn academydd allweddol yn y Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

Hi yw'r cyntaf o Gymru i gael ei hethol ar gorff llywodraethu UEFA, lle bydd nawr yn dechrau tymor o bedair blynedd. Hi yw'r cyntaf o Gymru i gael ei hethol ar gorff llywodraethu UEFA, lle bydd nawr yn dechrau tymor o bedair blynedd. Hi hefyd yw'r fenyw gyntaf i fod yn Is-lywydd UEFA.

Rhannu’r stori hon