Sefydliad wedi’i greu gan gynfyfyrwyr Caerdydd, ac un o bartneriaid y brifysgol, i adeiladu meithrinfa 'arloesol' yn Kenya
5 Ebrill 2023
Dau o bartneriaid Dyfodol Myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd – Play Action International (PAI) a Stiwdio CAUKIN – yn dod ynghyd i greu amgylchedd dysgu diogel i blant yn Kenya. Bydd y bartneriaeth gydweithio rhwng y ddau sefydliad yn golygu cydweithio i ariannu, dylunio ac adeiladu ysgol feithrin newydd yn Kisumu, Kenya.
Mae PAI, a sefydlwyd yn 2009 o dan yr enw East African Playgrounds, yn gweithio mewn cymunedau difreintiedig ac yn canolbwyntio ar wella dysgu ar gyfer plant, eu datblygiad, eu lles a’u mynediad at addysg trwy chwarae. Hyd yma, mae'r sefydliad wedi adeiladu dros 400 o feysydd chwarae mewn ysgolion cynradd, canolfannau Datblygu yn Ystod Plentyndod Cynnar, setliadau ffoaduriaid a lleoliadau cymunedol.
Mae PAI yn bartner sefydledig i dîm Dyfodol Myfyrwyr a Chyfleoedd Byd-eang Prifysgol Caerdydd, ac yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli dros yr haf yn Uganda, i fyfyrwyr.
Trwy PAI, mae myfyrwyr wedi helpu i drawsnewid cae ysgol yn Kenya drwy adeiladu maes chwarae newydd. Trwy fyw yn y gymuned a helpu i gynnal sesiynau yn ystod y prosiectau – prosiectau sy’n para dwy neu bedair wythnos – mae myfyrwyr yn gweld drostynt eu hunain y pŵer sydd gan chwarae o ran meithrin potensial plant.
Sefydlwyd Stiwdio CAUKIN yn 2015 gan grŵp o ffrindiau oedd yn astudio pensaernïaeth gyda'i gilydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac oedd wedi’u hysbrydoli gan awydd i ddysgu, creu a pharhau ag ymdrechion dyngarol. Tra yn y brifysgol ac yn gweithio gyda thîm Menter a Dechrau Busnes, Dyfodol Myfyrwyr, enillodd y stiwdio ddwy wobr ar gyfer myfyrwyr oedd yn cychwyn busnes. Dywedodd CAUKIN mai eu nod yw dangos y gall sefydliad ganfod cydbwysedd rhwng elw â phwrpas trwy eu cydweithrediadau, addysg a datblygiadau rhyngwladol.
Trwy’r brifysgol, mae CAUKIN hefyd yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli dros yr haf ledled y byd, i fyfyrwyr. Mae myfyrwyr yn cael cyfle i ennill profiad ymarferol yn ymwneud â phrosiectau adeiladu a bywyd lleol.
Sefydlodd CAUKIN gysylltiad cychwynnol â PAI drwy dîm Cyfleoedd Byd-eang Prifysgol Caerdydd pan oeddent yn astudio yn y brifysgol. Fe wnaeth y stiwdio gysylltu â PAI yn hwyr y llynedd er mwyn ymestyn eu datblygiadau busnes a gweld a oedd unrhyw brosiectau y gallent gydweithio arnynt yn y dyfodol.
Tua'r un amser, roedd PAI yn edrych am gyllid ar gyfer dylunio ysgol feithrin newydd a’i hadeiladu yn un o'u hysgolion yn Kenya. Dywedodd PAI iddynt, oriau’n unig ar ôl cytuno i'r prosiect gyda chefnogwr mawr, dderbyn yr e-bost gan CAUKIN yn gofyn am drafod cydweithio.
Yn ôl PAI, roedd yr amseriad yn berffaith. Roedd gan PAI y prosiect perffaith i'w gyflwyno i CAUKIN ac roedd y stiwdio yn cyd-fynd â'u gwerthoedd a'u gweledigaeth.
“Roedden nhw [CAUKIN] wedi eu cyffroi a'u hysbrydoli gan yr her yr oeddem wedi'i gosod i'n hunain – i ail-ddychmygu'n llwyr yr hyn y gallai adeilad meithrinfa fod gan ddod â chwarae i mewn adeiladwaith y strwythur,” meddai Jack Butterfield, Rheolwr Codi Arian a Phartneriaethau PAI.
Yn ôl CAUKIN, nid oedd yr adeilad presennol yn amgylchedd dysgu diogel oherwydd fod ei strwythur yn pydru gyda darnau mawr o haearn rhydlyd ar y to.
Disgrifiodd CAUKIN ddyluniad yr ysgol feithrin newydd yn Ysgol Gynradd Obwolo yn “fwriad i greu templed newydd ar gyfer dysgu ym mlynyddoedd cynnar plentyndod, yn Kenya.” Hefyd, bydd yn ceisio uno'r ffiniau rhwng chwarae a dysgu. Ychwanegodd PAI eu bod eisiau cadw ôl troed carbon isel gan ddefnyddio deunyddiau lleol, a’u bod hefyd am i’r adeilad gostio llai nag ystafell ddosbarth nodweddiadol wedi’i adeiladu gan y llywodraeth.
Dywedodd y stiwdio mai'r nod yw ailadrodd dyluniad a ffurf yr ysgol feithrin hon ledled y wlad wrth i PAI barhau i dyfu. Ar hyn o bryd, mae PAI wrthi’n ceisio codi'r arian sy'n weddill tra bod CAUKIN yn symud ymlaen gyda'r dyluniad, gyda chynlluniau i fod ar y safle yn Kenya yn ddiweddarach eleni.
“Yr hyn sy'n ein cyffroi am y prosiect hwn yw'r cyfle i gymhwyso ein harbenigedd yn ymwneud â chwarae at ddibenion trawsnewid y cysyniad o’r hyn yw ystafell ddosbarth arferol i fod yn fan dysgu arloesol, effeithiol, diogel a hwyliog sy'n ysgogi plant ar draws sbectrwm cyfan eu datblygiad – dim ond trwy fod yn yr adeilad,” meddai Prif Swyddog Gweithredol PAI, Murielle Maupoint. “Mae gweithio gyda CAUKIN a'r athrawon/plant yn ysgol Obwolo i feddwl am y dyluniad newydd hwn wedi bod yn gymaint o hwyl – ac yn syml, allwn ni ddim aros i weld y syniadau hyn yn cael eu gwireddu.”
“Mae’r Tîm Cyfleoedd Byd-eang mor falch o’r ffaith bod dau sefydliad sydd wedi cydweithio â ni dros nifer o flynyddoedd yn dod at ei gilydd i weithio ar y prosiect cyffrous hwn yn Kenya, a thrwy hynny, yn darparu ysgol feithrin angenrheidiol o ansawdd uchel,” meddai Chris Gale, Rheolwr Rhaglenni Haf Rhyngwladol y Tîm Cyfleoedd Byd-eang. “Rydym yn optimistaidd mai dyma fydd dechrau partneriaeth hirhoedlog, a fydd yn gweld llawer o israddedigion yn treulio amser yn Kenya, yn gwirfoddoli i adeiladu ysgolion meithrin, neu’n gwirfoddoli yn yr ysgolion meithrin eu hunain pan fyddant wedi’u hadeiladu ac ar agor.”