Mae bron i chwarter o bobl ifanc Cymru yn rhoi gwybod am lefelau uchel iawn o symptomau iechyd meddwl yn dilyn y pandemig
6 Ebrill 2023
Rhoddodd bron i chwarter y ddisgyblion ysgol uwchradd yng Nghymru wybod am lefelau uchel iawn o symptomau iechyd meddwl yn y blynyddoedd yn dilyn COVID-19, yn ôl adroddiad diweddaraf Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) Prifysgol Caerdydd.
Mae'r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau arolwg mawr o bobl ifanc yng Nghymru a seiliwyd ar ysgolion. Cafodd ei baratoi gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru ac mae’n rhoi'r trosolwg manwl cyntaf o iechyd a lles pobl ifanc ers i'r pandemig ddechrau. Am y tro cyntaf, gellir cymharu detholiad o'r data hefyd ar draws ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru, diolch i bartneriaeth SHRN â dadansoddwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd wedi creu dangosfwrdd rhyngweithiol ar-lein sy’n cyflwyno canlyniadau'r arolwg yn fanylach.
Yr Arolwg o Iechyd a Lles Disgyblion gan SHRN yw'r mwyaf o'i fath yn y DU gan i fwy na 123,000 o ddisgyblion rhwng blynyddoedd 7 ac 11 o 202 o ysgolion yng Nghymru gymryd rhan yn 2021/22. Mae'r arolwg eang ei natur, sy'n cael ei gynnal bob dwy flynedd, yn gofyn i ddisgyblion am agweddau ar eu hiechyd corfforol a meddyliol a'u perthnasoedd cymdeithasol, ac mae’r data dienw yn cael ei rannu gyda’r ysgolion er mwyn llywio arferion lleol.
Mae canfyddiadau'r adroddiad diweddaraf yn dangos bod 24% o bobl ifanc yng Nghymru wedi profi lefelau uchel iawn o symptomau iechyd meddwl, yn seiliedig ar ymatebion i'r Holiadur ar Gryfderau ac Anawsterau – sef adnodd ymchwil safonol a ddefnyddir i asesu iechyd meddwl plant. Roedd merched (28%) bron ddwywaith yn fwy tebygol na bechgyn (16%) o fod wedi rhoi gwybod am lefelau uchel iawn o symptomau iechyd meddwl.
Roedd mesurau eraill yn dangos bod un o bob dau (53%) o bobl ifanc hefyd wedi rhoi gwybod eu bod yn teimlo o leiaf rywfaint o bwysau oherwydd eu gwaith ysgol, ac mae un o bob pedwar (27%) yn teimlo llawer o bwysau.
Roedd y rhan fwyaf o'r sawl a holwyd yn teimlo bod cymorth ar gael iddyn nhw; Roedd dwy ran o dair (66%) yn cytuno bod aelod o staff yn yr ysgol y gallen nhw ymddiried ynddo ac roedd y rhan fwyaf yn dweud eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu derbyn gan eu hathrawon (70%). Roedd mwy na hanner (65%) y sawl a holwyd yn cytuno eu bod yn cael y cymorth a'r gefnogaeth emosiynol sydd eu hangen arnyn nhw gan eu teulu, tra bod bron i ddwy ran o dair (63%) yn cytuno y gallan nhw ddibynnu ar eu ffrindiau pan fydd pethau'n mynd o chwith, ac roedd 29% yn cytuno'n "gryf iawn" yn hyn o beth.
Dyma a ddywedodd yr Athro Simon Murphy, Cyfarwyddwr y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ym Mhrifysgol Caerdydd, a Phrif Ymchwilydd SHRN: "Dechreuodd ein hymchwil cwta 18 mis ar ôl cyfnod clo cyntaf Covid. Efallai nad yw'n fawr o syndod felly bod cynifer o bobl ifanc yn wynebu heriau iechyd meddwl a phwysau gwaith ysgol ar hyn o bryd."
Dyma a ddywedodd Dr Nicholas Page, Cydymaith Ymchwil yn DECIPHer a phrif awdur yr adroddiad: "Bydd y data hwn, sy'n ymchwilio i ystod eang o faterion sy'n effeithio ar fyfyrwyr yng Nghymru, o ddiddordeb i unrhyw un sy'n gweithio yn y sectorau iechyd ac addysg yn ogystal â rhoi tystiolaeth gadarn a all lywio a llunio polisïau. Rydyn ni’n ddiolchgar i bob ysgol a myfyriwr a gymerodd ran."
Yn ogystal ag iechyd meddwl a lles a bywyd yr ysgol, ystyriodd yr arolwg nifer o bynciau gwahanol, gan gynnwys bywyd teuluol a chymdeithasol, gweithgarwch corfforol a deiet, perthnasoedd, defnyddio sylweddau a gamblo, yn ogystal â hawliau plant.
Canfyddiadau eraill
- Gofalwyr ifanc: Rhoddodd 17% o bobl ifanc wybod eu bod wedi gorfod gofalu am aelod o'r teulu.
- E-sigaréts ac ysmygu: Rhoddodd un o bob pump (20%) o bobl ifanc wybod eu bod wedi rhoi cynnig ar e-sigarét. Rhoddodd 5% o bobl ifanc wybod eu bod yn ysmygu e-sigarét ar hyn o bryd (o leiaf unwaith yr wythnos) ac mae llai o fechgyn (4%) yn dweud eu bod yn eu defnyddio ar hyn o bryd o'u cymharu â merched (7%). Ar y cyfan, rhoddodd 3% o bobl ifanc wybod eu bod yn ysmygu tybaco ar hyn o bryd.
- Yfed alcohol: Rhoddodd bron i dri o bob pump (58%) o bobl ifanc wybod nad ydyn nhw byth yn yfed alcohol, a dywedodd 7% eu bod yn yfed ar hyn o bryd (o leiaf unwaith yr wythnos).
- Lleoedd heb fwg: Yn yr arolwg, rhoddodd pobl ifanc eu barn am wahardd ysmygu mewn lleoedd nad yw deddfau di-fwg cyfredol yn berthnasol. Roedd tua un o bob dau yn cytuno y dylid gwahardd ysmygu mewn cartrefi pan fo plant yn bresennol (54%) a thu allan i giatiau’r ysgol (49%), tra bod dau o bob pump yn cytuno y dylid ei wahardd y tu allan i dafarndai, caffis a bwytai (37%), ac mewn parciau cyhoeddus (40%).
- Ymarfer corff: Roedd 16% o bobl ifanc yn bodloni’r canllawiau a argymhellir ar gyfer gweithgarwch corff, sef o leiaf 60 munud y dydd.
- Bwyta ffrwythau a llysiau: Rhoddodd 33% o fyfyrwyr wybod eu bod yn bwyta ffrwythau o leiaf unwaith y dydd, o'i gymharu â 35% a oedd yn bwyta llysiau o leiaf unwaith y dydd
Dyma a ddywedodd Zoe Strawbridge, un o ddadansoddwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae'r data hwn mor werthfawr gan ei fod yn rhoi'r cipolwg manwl cyntaf inni ar y ffordd yr oedd pobl ifanc yng Nghymru yn teimlo ac yn ymddwyn yn y blynyddoedd cyn ac yn ystod cyfnod aciwt y pandemig. Am y tro cyntaf rydyn ni wedi gallu rhoi gwybod am ddata lleol, ac mae hyn yn ein helpu i ddeall gwahaniaethau rhanbarthol o ran iechyd a lles pobl ifanc yng Nghymru."
Mewn ymdrech i wella lles emosiynol pobl ifanc, mae arbenigwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru'n annog ysgolion i fabwysiadu Dull Ysgol Gyfan Llywodraeth Cymru o ymdrin ag llesiant emosiynol a meddyliol. Mae'r dull gweithredu yn cydnabod y gall pob agwedd ar fywyd ysgol effeithio ar iechyd a lles, gan roi arweiniad i helpu pawb i weithio ar y cyd er mwyn gwella hyn. Mae data SHRN yn chwarae rhan hollbwysig wrth adnabod y materion y mae angen mynd i'r afael â nhw yn ogystal â ffordd o werthuso’r cynnydd.
Dyma a ddywedodd Emily Van de Venter, Ymgynghorydd Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn helpu ysgolion i ddefnyddio Fframwaith Llywodraeth Cymru ym maes y Dull Ysgol Gyfan o ymdrin ag Iechyd Meddwl a Lles Emosiynol i estyn cymorth i’w disgyblion yn y cyfnod hwn ar ôl y pandemig. Mae’n cydnabod bod pob agwedd ar fywyd ysgol yn gallu effeithio ar iechyd meddwl a lles disgyblion ac y dylai dysgwyr, rhieni a gofalwyr, athrawon a llywodraethwyr weithio gyda'i gilydd i wella iechyd a lles yn yr ysgol."
Un o'r ysgolion wnaeth dreialu'r dull o weithredu oedd Ysgol Brenin Harri’r VIII yn y Fenni. Dywed y pennaeth cynorthwyol Jake Parkinson ei fod wedi bod yn fuddiol.
Dyma a ddywedodd: "Mae bod yn ysgol beilot ar gyfer y dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol wedi bod yn brofiad dysgu cadarnhaol iawn i'r ysgol. Mae'r fframwaith hwn wedi ein helpu i ddathlu'r holl bethau gwych rydyn ni eisoes yn eu gwneud, ond mae hefyd wedi cynorthwyo'r ysgol i adnabod meysydd datblygu pellach, gan ein helpu i flaenoriaethu anghenion drwy hunanwerthuso ar sail tystiolaeth."
Wrth sôn am ganfyddiadau’r SHRN, dyma a ddywedodd Ian Gerrard, Pennaeth Ysgol Aberconwy: "Mae'r data hwn yn bwysig iawn inni yn yr ysgol gan ei fod yn rhoi cipolwg manwl inni ar sut mae'r pandemig wedi effeithio ar bobl ifanc Cymru. O ganlyniad, mae ein tîm bugeiliol mewn sefyllfa dda i roi cymorth i unigolion ac i grwpiau o blant sy'n mynegi pryderon am eu hiechyd meddwl, ac rydyn ni’n gallu cynllunio'n strategol i ddarparu gweithgareddau a fydd yn eu helpu."
Ynghylch Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN)
Partneriaeth yw SHRN rhwng y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ym Mhrifysgol Caerdydd, Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymchwil Canser y DU.
Ariennir y bartneriaeth gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn ogystal ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn 2021 yr ysgolion oedd pob ysgol uwchradd a chanol a gynhelir yng Nghymru.
Mae DECIPHer yn aelod o SPARK - Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae SPARC, ar Gampws Arloesi Caerdydd, yn dod â chanolfannau a sefydliadau ymchwil arbenigol yn y gwyddorau cymdeithasol at ei gilydd mewn canolfan bwrpasol, sef sbarc|spark, i fynd i’r afael â phroblemau dybryd y gymdeithas.
Ymunwch ag Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn gweminar fydd yn dangos y ffordd orau o ddefnyddio'r dangosfwrdd. Ceir hefyd y cyfle i ofyn cwestiynau a chael trafodaeth gyda’r sawl a oedd wedi llunio dangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cynllun Rhwydwaith Ysgolion Iach Cymru ac academyddion DECIPHer.