DSV yn rhoi hwb i arweinwyr y dyfodol
27 Mawrth 2023
Mae gweithwyr proffesiynol ymroddedig a ymunodd â rhaglen arweinwyr y dyfodol DSV wedi helpu i gryfhau cysylltiadau rhwng Prifysgol Caerdydd a’r cwmni trafnidiaeth a logisteg enfawr, byd-eang hwn.
Mae'r cwmni o Ddenmarc, sydd â phartneriaeth hirsefydlog gyda Sefydliad PARC Prifysgol Caerdydd, yn paratoi staff ifanc dawnus ar gyfer rolau rheoli yn y dyfodol.
Trwy’r Rhaglen Solutions Accelerate, fe gynhaliwyd wythnos breswyl diwedd-cwrs o hyfforddiant ym Mhrifysgol Caerdydd gyda darlithoedd ar reoli trafnidiaeth, yr economi gylchol a chynaliadwyedd, rhagolygon ynghyd â stocrestrau a chynhyrchiant.
Cyflwynodd aelod o fwrdd Rhaglen Accelerate, Ralph Schouren, DSV, ddiploma i bob myfyriwr am gwblhau'r rhaglen.
Dywedodd Ralph: “Roedd dysgu a datblygu sgiliau o ansawdd uchel yn sylfaen i’n Rhaglen Accelerate gyntaf erioed, sydd wedi’i chreu’n bwrpasol i roi’r wybodaeth, y sgiliau a’r craffter busnes sydd eu hangen ar ein harweinwyr ifanc i lywio DSV y dyfodol. Mae llwyddiant ysgubol y digwyddiad hwn yn golygu bod carfan newydd o weithwyr proffesiynol ifanc o swyddfeydd DSV ledled y byd eisoes wedi dechrau ar eu taith gyda’r Rhaglen Accelerate nesaf, ac rydyn ni’n dymuno pob lwc iddyn nhw!”
Bu’r garfan yn bresennol mewn asesiadau, hyfforddiant a chyflwyniadau yn y Brifysgol, gan gynnwys ymweliad â RemakerSpace a Sefydliad Gweithgynhyrchu, Logisteg a Stocrestrau PARC.
Dyfarnwyd tystysgrifau ac fe roddwyd araith longyfarch gan yr Athro Rachel Ashworth, Pennaeth a Deon Ysgol Busnes Caerdydd, i gloi’r pum niwrnod, ac yna cafwyd dathliad 'diwedd cwrs' a rhwydweithio.
Yn ôl yr Athro Ashworth: “Roeddwn wrth fy modd yn cael y cyfle i gwrdd â rhai o’r graddedigion ymroddedig ar y rhaglen a dathlu eu cyflawniadau. Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle gwych i’r rhai sy’n cymryd rhan ynddi ac mae hefyd yn arddangosiad pellach o’r bartneriaeth gynyddol rhwng yr Ysgol Busnes a DSV.”
Ychwanegodd yr Athro Aris Syntetos, Cyfarwyddwr PARC a RemakerSpace, Ysgol Busnes Caerdydd: “Roeddem ni, yn Sefydliad PARC, Ysgol Busnes Caerdydd, yn falch iawn o groesawu’r garfan Accelerate gyntaf, ac roedd yn bleser dylunio a chyflwyno cwrs wythnos o hyd yn ymdrin â meysydd allweddol yn ein harbenigedd a chynnwys y cyfranogwyr yn y gwaith rydym yn ei wneud yn RemakerSpace.
“Gweithio gyda phobl ym maes diwydiant a dylanwadu ar arferion y byd go iawn yw raison d’être PARC, ac edrychwn ymlaen at groesawu carfannau newydd Accelerate i’n Prifysgol yn y dyfodol.”
Mae Sefydliad PARC a RemakerSpace wedi ymrwymo i greu byd cynaliadwy trwy ddod o hyd i atebion economaidd cylchol i heriau mawr cymdeithas, gan bontio'r bwlch rhwng theori ac ymarfer ym maes logisteg a rheoli gweithrediadau gweithgynhyrchu.
Darllenwch ragor am bartneriaeth DSV â Phrifysgol Caerdydd a RemakerSpace, yma: