Ewch i’r prif gynnwys

Galwad am Gyfranogwyr: Ysgol Haf Para-ddiplomyddiaeth

23 Mawrth 2023

Bydd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn croesawu hyd at 12 o fyfyrwyr PhD i Ysgol Haf Para-ddiplomyddiaeth ym mis Gorffennaf.

Mae “Para-ddiplomyddiaeth” yn derm sy'n cyfleu ymarfer cysylltiadau a gweithgareddau diplomyddol gan genhedloedd a rhanbarthau is-wladwriaeth. Er gwaethaf cydnabyddiaeth gynyddol o'i harwyddocâd mewn gwleidyddiaeth fyd-eang, mae para-ddiplomyddiaeth yn parhau i fod yn gysyniad annelwig ac ymledol, ond yn un sydd mewn gwell sefyllfa i archwilio dimensiynau gwleidyddol mobileiddio is-wladwriaethol ar draws y byd na ellir ei ddal gan ddulliau polisi sydd wedi'u diffinio'n gul.

Bydd yr Ysgol Haf yn darparu amgylchedd dysgu rhyngweithiol iawn lle bydd myfyrwyr PhD yn gweithio ochr yn ochr ag academyddion blaenllaw i ddadansoddi a gwerthuso deinameg cystadlu gweithgarwch para-ddiplomyddol. Gan gyfeirio at enghreifftiau o'r byd go iawn yn Ewrop a ledled y byd, bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth soffistigedig o gysyniad ac ymarfer para-ddiplomyddiaeth gyfoes.

Cynhelir yr Ysgol Haf yng Nghaerdydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru a Sefydliad Coppieters ar 11 a 12 Gorffennaf, a bydd yn cynnwys prif ddarlith, seminarau academaidd a gweithdai ymchwil i fyfyrwyr gael adborth ar eu gwaith. Bydd yn rhad ac am ddim ac yn cynnwys llety ym Mhrifysgol Caerdydd a chinio Ysgol Haf. Cadeirydd yr Ysgol Haf fydd Dr Rachel Minto o Brifysgol Caerdydd a Dr Carolyn Rowe o Brifysgol Aston, a thraddodir y brif ddarlith gan yr Athro Michael Keating.

Anogir cyfranogwyr posibl i ddarllen y llyfryn llawn, sy'n cynnwys manylion ar sut i wneud cais, ac sydd ar gael ar y ddolen hon.

Rhannu’r stori hon