Comisiwn cerddorfaol Toulmin yr Athro Arlene Sierra i'w berfformio gan bum cerddorfa Americanaidd
22 Mawrth 2023
Mae comisiwn cerddorfaol Toulmin Arlene Sierra yn rhan o gonsortiwm o 30 cerddorfa sy’n perfformio gweithiau gan gyfansoddwyr benywaidd a gomisiynwyd gan Gynghrair Cerddorfeydd America.
Bydd Rhaglen Comisiynau Cerddorfaol Sefydliad Virginia B. Toulmin yn gweld ensembles yn chwarae gweithiau newydd gan chwe chyfansoddwr benywaidd, gyda chwe cherddorfa’n arloesi gyda’r fenter yn ystod tymhorau 2022-2023, a 2023-2024.
Bydd comisiwn yr Athro Sierra yn cael ei berfformiad cyntaf yn y byd gyda Symffoni Detroit a’r Arweinydd Kevin John Edusei ar 19-21 Hydref 2023.
Fel rhan o'r Rhaglen, bydd y cerddorfeydd yn rhoi perfformiadau ailadroddus o weithiau cyfansoddwyr, sy'n golygu y bydd cerddoriaeth pob cyfansoddwr yn cael ei pherfformio bum gwaith gan gerddorfeydd blaenllaw ar draws tri thymor.
Dywedodd yr Athro Sierra: “Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o'r rhaglen hon am ei heiriolaeth dros fenywod yn fy maes a'i ffocws unigryw ar ailadrodd perfformiadau o weithiau newydd, agwedd sy'n hanfodol bwysig ar gyfer derbyn a gwerthfawrogi cerddoriaeth newydd. Yn rhy aml, unwaith yn unig y caiff comisiynau newydd eu perfformio – rwyf mor falch dros yr holl gyfansoddwyr sy’n cymryd rhan y bydd eu gweithiau newydd i’w clywed sawl gwaith dros y ddau dymor nesaf.”
Mae Rhaglen Comisiynau Cerddorfaol Sefydliad Virginia B. Toulmin yn fenter gan Gynghrair Cerddorfeydd America, mewn partneriaeth â Cherddorfa Cyfansoddwyr America (ACO) ac a gefnogir gan Sefydliad Virginia B. Toulmin. Mae'r rhaglen yn ceisio cynyddu rhaglennu gweithiau gan fenywod a chyfansoddwyr anneuaidd ar lwyfannau cerddorfa.