Myfyrwyr mentrus yn cadw llygaid ar wobrau i dyfu syniadau
22 Mawrth 2023
Bydd gwobrau ariannol o £17,500, ac mae llu o gymorth busnes ar gael i fyfyrwyr Caerdydd yng Ngwobrau Menter a Dechrau Busnes blynyddol y Brifysgol.
Mae Menter Myfyrwyr a Busnes Cychwynnol Prifysgol Caerdydd wedi ymuno â Santander, Gavin Davidson a Pheirianwyr mewn Busnes i ddod â'n gwobrau mwyaf eto i chi.
Gyda gwobrau'n cael eu gynnig ar draws tri chategori gwahanol, mae gan y myfyrwyr gyfle i droi syniadau'n realiti.
"Mae gennym becynnau menter anhygoel ar gael yn y digwyddiad eleni, ond bydd rhaid i'r myfyrwyr frysio - bydd y cyfnod cyflwyno ceisiadau'n cau 17 Ebrill," meddai Georgie Moorcroft, Uwch Reolwr Menter a Busnesau Newydd, sy'n gweithio yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr yng Nghaerdydd.
Y tri chategori yw:
Gwobr Go Getter ar gyfer Dechrau Busnes, Santander
Ydych chi bron yn barod i lansio'ch syniad busnes neu wedi lansio yn ddiweddar? Ydych chi wedi gwneud y gwaith ymchwil, ac wedi creu cynllun busnes cryf? Ydych chi'n chwilio am y buddsoddiad cychwynnol hwnnw i roi dechrau i’ch syniad neu dyfu eich busnes? Os felly, dyma’r gwobrau i chi!
Gwobr o £5000 i’r safle cyntaf
Gwobr o £3500 i'r ail safle
Gwobr o £2000 i'r trydydd safle
Gwobr Menter Gymdeithasol Gavin Davidson
Ydych chi'n angerddol ynghylch anghydraddoldeb a newid cymdeithasol? Oes gennych chi syniad a allai wneud gwahaniaeth? A fyddai buddsoddiad cychwynnol yn eich helpu i ddechrau helpu'r byd o'ch cwmpas? Os felly, dyma’r gwobrau i chi!
Gwobr o £3000 i'r enillydd
Gwobr o £1000 i'r ail safle
Gwobr Peirianwyr Ysbrydoledig (ar agor i fyfyrwyr Peirianneg yn unig)
Ydych chi'n beiriannydd â syniad a allai ddatrys problem neu wneud gwahaniaeth? Ydych chi'n meddwl bod posibilrwydd y gallai eich syniad fod yn realiti? Hoffech chi gael buddsoddiad cychwynnol i archwilio potensial llawn eich syniad? Os felly, dyma’r gwobrau i chi!
Gwobr o £1500 i’r safle cyntaf
Gwobr o £1000 i'r ail safle
Gwobr o £500 i'r trydydd safle
Ychwanegodd Georgie: "Mae'r Gwobrau ar agor i bob myfyriwr o'r flwyddyn gyntaf hyd at 3 ar ôl graddio. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion a thimau.
"Y cwbl sydd angen i'r rhai â diddordeb ei wneud i gyflwyno cais ar gyfer unrhyw un o'r gwobrau uchod yw cofrestru ar gyfer y Llwybr Pecyn Cymorth Menter a Dechrau Busnes ar eu Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr ac fe anfonwn ffurflen gais!"
Caiff y myfyrwyr sydd ar y rhestr fer gynnig cyfle i gyflwyno syniadau i banel beirniadu ar naill ai 9, 10, neu 11 Mai 2023. Bydd pob cyflwyniad llwyddiannus yn cael gwybod erbyn 26 Ebrill 2023, a bydd manylion y diwrnod cyflwyno yn cael eu hanfon yn uniongyrchol.
Cynhelir noson wobrwyo a rhwydweithio yn sbarc|spark - cartref newydd Caerdydd ar gyfer nifer gynyddol y brifysgol o fusnesau deillio, busnesau newydd a mentrau cymdeithasol.
I gael gwybodaeth bellach, cysylltwch ag enterprise@caerdydd.ac.uk