Mae coedwigoedd trofannol sy’n adfer ond yn gwrthbwyso chwarter yr allyriadau carbon yn sgîl datgoedwigo trofannol a diraddio coedwigoedd newydd, yn ôl astudiaeth
22 Mawrth 2023
Mae datgoedwigo a choedwigoedd a gafodd eu colli neu eu difrodi oherwydd newidiadau amgylcheddol yn prysur fynd y tu hwnt i gyfraddau cyfredol aildyfu coedwigoedd, yn ôl tîm rhyngwladol o wyddonwyr.
Mae eu hastudiaeth, y gyntaf o'i bath, yn dangos bod cyfanswm y carbon mewn tyfiant coedwigoedd uwchben y ddaear ond yn ddigon i wrthbwyso chwarter (26%) o'r allyriadau carbon presennol sy’n digwydd oherwydd datgoedwigo a diraddio trofannol.
Mae'r ymchwil, a gyhoeddwyd heddiw yn Nature, yn asesu’r potensial i storio carbon a therfynau cyfredol aildyfiant coedwigoedd trofannol yn y frwydr yn erbyn argyfyngau ecolegol ac yn yr hinsawdd.
Cafodd arbenigedd Prifysgol Caerdydd ei ddefnyddio’n rhan o’r ymchwil, a chafodd yr ymchwil ei harwain gan dîm ym Mhrifysgol Bryste ar y cyd â gwyddonwyr amgylcheddol o UDA ac Ewrop. Defnyddiodd y grŵp rhyngwladol, a gydweithiodd â Sefydliad Cenedlaethol Brasil ar gyfer Ymchwil i’r Gofod, ddata lloeren ar dair coedwig drofannol fwyaf y byd i ymchwilio i faint o garbon a oedd yn cael ei dynnu o’r atmosffer ganddynt.
Dyma a ddywedodd Dr T.C. Hales, Darllenydd Gwyddorau'r Ddaear yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd, cyd-awdur yr astudiaeth: “Ar hyn o bryd mae ffocws enfawr ar blannu coed fel dull o liniaru ein hôl troed carbon. Mae angen i fusnesau a llywodraethau blaenllaw ganolbwyntio ar adfer tir hesb, yn hytrach nag ystyried pwysigrwydd coedwigoedd a allai fod wedi’u heffeithio gan waith torri coed yn y gorffennol.”
Ychwanegodd y prif awdur Dr Viola Heinrich, a gwblhaodd ei hastudiaeth PhD a gyd-oruchwyliwyd gan Dr Hales ym Mhrifysgol Bryste yn ddiweddar: “Mae ein hastudiaeth yn rhoi'r amcangyfrifon cyntaf o amsugno carbon uwchben y ddaear ledled rhanbarthau trofannol mewn coedwigoedd trofannol sy'n gwella ar ôl diraddio a datgoedwigo.
“Er mai gwarchod coedwigoedd trofannol hynafol yw'r flaenoriaeth o hyd, rydyn ni’n dangos y gwerth ynghlwm wrth reoli coedwigoedd a all adfer ar ôl aflonyddwch dynol mewn ffordd gynaliadwy .”
Defnyddiodd y tîm setiau data lloeren sy'n gallu gwahaniaethu datgoedwigo oddi wrth fathau eraill o aflonyddwch a achosir gan bobl, megis torri coed a thanau, i bennu'r mathau o goedwigoedd sy'n aildyfu.
Ar y cyd â gwybodaeth am garbon uwchben y ddaear gan Asiantaeth Gofod Ewrop, a newidynnau amgylcheddol, modelodd y tîm batrymau gofodol yn sgîl aildyfu coedwigoedd yn yr Amazon, Canol Affrica a Borneo.
Dyma a ddywedodd Dr Heinrich, sydd bellach yn Gydymaith Ymchwil ym Mhrifysgol Caerwysg: “Gall y modelau adfer carbon a ddatblygwyd gennym lywio gwyddonwyr a llunwyr polisïau ar y posibilrwydd o storio carbon coedwigoedd eilaidd a diraddiedig os cânt eu diogelu ac yn cael adfer.”
Dywed y tîm fod eu canlyniadau hefyd yn dangos pwysigrwydd carbon wrth warchod coedwigoedd sy'n adfer ledled y trofannau.
Canfuon nhw fod coedwigoedd diraddiedig sy’n gwella yn sgîl mathau o aflonyddwch dynol a choedwigoedd eilaidd sy’n aildyfu mewn ardaloedd a ddatgoedwigwyd yn flaenorol yn tynnu o leiaf 107 miliwn tunnell o garbon o'r atmosffer yn flynyddol.
“Mae coedwigoedd trofannol yn rhoi llawer o adnoddau uniongyrchol hollbwysig i filiynau o bobl ac anifeiliaid. Ar raddfa fawr mae’n rhaid inni ddiogelu ac adfer coedwigoedd trofannol oherwydd eu gwerth o ran carbon a’r hinsawdd. Ar y raddfa leol, dylai pobl allu parhau i ddefnyddio'r coedwigoedd yn gynaliadwy,” ychwanegodd Dr Heinrich.
Canfuon nhw fod y mathau o aflonyddwch dynol yn Borneo yn arwain at y gostyngiadau mwyaf o ran carbon mewn coedwigoedd diraddiedig, yn bennaf oherwydd torri coed sy'n werthfawr yn economaidd ar raddfa enfawr, o'i gymharu â’r hyn sy’n digwydd yn yr Amazon a Chanolbarth Affrica.
Mae'r hinsawdd a'r amgylchedd yn Borneo hefyd yn arwain at garbon sy’n cronni tua 50% yn gyflymach nag yn y rhanbarthau eraill.
Ychwanegodd y cyd-awdur Dr Luiz Aragão, Pennaeth Is-adran Arsylwi'r Ddaear a Geowybodeg Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil ar y Gofod (INPE) Brasil: “Mae canolbwyntio ar ddiogelu ac adfer coedwigoedd trofannol diraddiedig ac eilaidd yn ateb effeithlon i greu mecanweithiau cadarn i ddatblygu gwledydd trofannol mewn ffordd gynaliadwy.
“Mae hyn yn ychwanegu gwerth ariannol gwasanaethau amgylcheddol y coedwigoedd hyn o’r lefel leol i’r lefel fyd-eang, ac mae hyn yn ei dro o fudd i boblogaethau lleol yn economaidd ac yn gymdeithasol.”
Mae'r tîm yn bwriadu ehangu ar ei ymchwil drwy wella'r amcangyfrifon o golledion ac enillion carbon oherwydd mathau gwahanol o aflonyddwch ar goedwigoedd sy’n digwydd ar gyflymder gwahanol ar draws y trofannau.