Safonau proffesiynoldeb ym maes deintyddiaeth
20 Mawrth 2023
![Dentist and assistant with a patient](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/1054953/dentist-with-pt.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae Tîm CUREMeDE, ar y cyd â Jonathan Cowpe; athro emeritws yn Ysgol Ddeintyddiaeth Prifysgol Caerdydd, a Hannah Barrow; mae Cymrawd Clinigol Academaidd yn Sefydliad Deintyddol Eastman yng Ngholeg Prifysgol Llundain, wedi cyhoeddi erthygl newydd yn y British Dental Journal.
Teitl yr erthygl yw 'A yw safonau proffesiynoldeb ym maes deintyddiaeth yn briodol? Barnau gweithwyr deintyddol proffesiynol a'r cyhoedd’. Gweithredodd y papur arolwg ar-lein i archwilio barn unigolion am ymddygiadau proffesiynol ac amhroffesiynol ym maes deintyddiaeth.
Nododd y papur ddwy linell allweddol o ddadlau: mae safonau proffesiynoldeb yn gyfiawn o uchel, ac mae safonau proffesiynoldeb yn rhy uchel. Mae'r papur yn tynnu sylw at effaith y safonau uchel o broffesiynoldeb ar ddeintyddion ac mae'n cynnig argymhellion ar gyfer annog diwylliant cadarnhaol a myfyriol o broffesiynoldeb.