Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil etholiadol diweddaraf a rennir gyda dirprwyaeth Japaneaidd

13 Mawrth 2023

Ymwelodd dirprwyaeth o lysgenhadaeth Japan i’r DG â Chanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd i ddysgu mwy am hunaniaeth genedlaethol ac agweddau cyfansoddiadol yn y wlad.

Yng nghwmni Keith Dunn, Conswl Anrhydeddus Japan yng Nghymru, cyfarfu swyddogion o’r llysgenhadaeth ag Ed Poole a James Griffiths o dîm Astudiaeth Etholiad Cymru, a gyda Hedydd Phylip, darlithydd mewn cyfraith gyhoeddus a datganoli.

Daeth y ddirprwyaeth, a oedd yn cynnal rhaglen lawn a ddatblygodd Llywodraeth Cymru, i ddeall canfyddiadau diweddaraf Astudiaeth Etholiad Cymru, gan gynnwys data ar ddewisiadau cyfansoddiadol, agweddau tuag at Gymreictod a Phrydeindod, ac ymddygiad pleidleiswyr.

Rhannu’r stori hon