Amdani: Athro ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhannu ei gariad at STEM gyda phlant lleol yn ystod diwrnod gemau yn Llyfrgell Bargod
8 Mawrth 2023
A hwythau’n newid sgriniau am gemau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg), cafodd plant ysgol yn llyfrgell brysur Bargod eu cyflwyno gan yr Athro Federica Dragoni i ochr hwyl Mathemateg drwy chwarae, a hynny er mwyn ceisio cryfhau eu diddordeb mewn rhifau.
Daeth plant o’r ardal leol, gan gynnwys plant o ysgol gynradd St Gwladys ac Ysgol Gyfun Heolddu, i’r diwrnod gemau ym mis Ionawr, a gafodd ei gynnal rhwng 10am a 4pm dros ddau lawr yn y llyfrgell. Yn lle gofyn i’r plant gymryd rhan yn unigol drwy ddefnyddio sgriniau, cawsant eu hannog i sgwrsio wyneb-yn-wyneb a chydweithio â’u cyfoedion i ddatrys posau ac iddynt lawer o werth addysgol.
Bu i’r Athro Dragoni ddod â’i gemau ei hun a’i brwdfrydedd diddiwedd dros Fathemateg i’r digwyddiad, cynnwys gemau ar ffracsiynau ymhlith y cymysgedd o bosau, a defnyddio’r diwrnod i roi gwybod mai pwnc deinamig ac amlochrog yw Mathemateg. Pwysleisiodd yr Athro Dragoni yn arbennig sut y gall y clwb gyrraedd y plant hynny a oedd yn credu gynt nad oeddent yn hoffi’r pwnc.
“Mae plant yn tyfu i fyny yn casáu Mathemateg, oherwydd nad oes byth ochr hwyl lle rydych yn chwarae gyda’r hyn rydych wedi’i ddysgu,” meddai Dr Dragoni, a amlinellodd fod cefnogi rôl clybiau fel hyn yn helpu i ddangos i ddysgwyr ifanc ei bod yn bosibl bod yn greadigol ym maes Mathemateg.
Wrth i nifer y swyddi ym meysydd STEM barhau i gynyddu, mae 43% o’r swyddi hynny’n anodd eu llenwi, yn ôl Arolwg Sgiliau Cyflogwyr y DU 2013. Mae cael plant i ymddiddori mewn Mathemateg yn gam hollbwysig i lenwi’r swyddi yn ein heconomi yn y dyfodol a chwalu’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag dechrau neu ddychwelyd i addysg fathemategol drwy gydol eu bywydau.
Bydd sesiwn nesaf y clwb yn cael ei chynnal yn Llyfrgell Bargod ar 25 Mawrth rhwng 10am a 4pm.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Facebook Cymdeithas Pen Bwrdd a Chwaraewyr Gemau Caerffili.