Athro yn dathlu ei ben-blwydd yn bedwar ugain oed
9 Mawrth 2023
Symposiwm rhyngwladol i nodi pen-blwydd yr Athro Ole Petersen CBE FRS
Ar Mawrth 3 bu i symposiwm arbennig iawn, wedi’i drefnu gan Ysgol y Biowyddorau a'r Gymdeithas Ffisiolegol, gydnabod cyflawniadau oes yr Athro Ole Petersen, un o ffisiolegwyr amlycaf y byd.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn Siambr hanesyddol Cyngor Morgannwg Prifysgol Caerdydd, ac fe’i cadeiriwyd gan Dr Oleg Gerasimenko a Dr Julia Gerasimenko. A’r Athro Peterson yn Is-Lywydd Acadmeia Europea, roedd siaradwyr o’r academi honno ymhlith y sawl oedd yn y digwyddiad.
Agorodd yr Athro Jim Murray, Pennaeth Ysgol y Biowyddorau, y symposiwm drwy ddiolch i'r Athro Petersen am ei gyfraniad i wyddoniaeth a'i wasanaeth.
Mynegodd yr Athro Valerie O'Donnell, o'r Ysgol Meddygaeth, ei diolch am fentoriaeth yr Athro Petersen, tra talodd ei fab, yr Athro Carl Petersen (École Polytechnique Fédérale de Lausanne), deyrnged i'w dad am ei annog a'i ysbrydoli ef a'i frawd.
Hedfanodd aelodau'r teulu o Japan, Singapore a'r Swistir draw ar gyfer yr achlysur.
Dywedodd yr Athro Petersen: “Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Athro Jim Murray am ei gyflwyniad caredig a hael iawn yn y symposiwm.
“Rydw i hefyd yn hynod ddiolchgar i Dr Julia Gerasimenko a Dr Oleg Gerasimenko, fy nghydweithwyr arbennig dros flynyddoedd lawer, am eu gwaith yn trefnu’r digwyddiad; fe ddaethant â chymaint o ffrindiau a chyn-gydweithwyr at ei gilydd ar gyfer yr achlysur hwn.
"Roedd yn bleser arbennig bod fy ffrind nodedig, Anant Parekh, sy’n Gymrawd yn y Gymdeithas Frenhinol (FRS) ac sydd nawr yn gweithio i’r Sefydliadau Cenedlaethol dros Iechyd (NIH) yn Sefydliad Cenedlaethol Gwyddorau Iechyd yr Amgylchedd (NIEH) Carolina, UDA, wedi gallu dod i Gaerdydd i siarad yn y symposiwm.”
Yn gyn-Bennaeth yr Ysgol, mae'r Athro Petersen yn arwain grŵp ymchwil ar glefyd y pancreas. Cafodd ei ethol yn Gymrawd yn y Gymdeithas Frenhinol yn 2000 ac fe'i hanrhydeddwyd yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn 2008 am ei 'Wasanaethau i Wyddoniaeth'.
Yn fwy diweddar, derbyniodd yr Athro Petersen Wobr Goffa Walter B Cannon, Cymdeithas Ffisiolegol America, a Gwobr Palade fawreddog Cymdeithas Ryngwladol Pancreatoleg (IAP) yn 2022.
Yr Athro Petersen yw Is-lywydd Academia Europaea a Chyfarwyddwr Canolfan Wybodaeth Academia Europaea Caerdydd. Mae’n Brif Olygydd cyfnodolyn blaenllaw Mynediad Agored Cymdeithas Ffisioleg America, Function a lansiwyd yn 2020.