Caerdydd yn ennill buddsoddiad gwerth £1.2m i wneud ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol
7 Mawrth 2023
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ennill cyfran o £1.25m o gyllid fydd yn troi ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol yn fanteision yn y byd go iawn i’r gymdeithas ehangach.
Bydd y buddsoddiad, sy'n rhan o becyn gwerth £40m ledled y DU gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), yn cefnogi 32 o Gyfrifon Sbarduno Effaith (IAA) yn y gwyddorau cymdeithasol mewn prifysgolion a sefydliadau ymchwil yn y DU.
Mae gan Gaerdydd hanes rhagorol o sicrhau cyllid IAA.
Dyma a ddywedodd yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter: "Bydd y cylch diweddaraf hwn o gyllid yn golygu y gallwn ni ddatblygu’r wyth mlynedd o lwyddiant blaenorol, gan rymuso ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol i helpu’r gymdeithas. Bydd yn rhoi cefnogaeth hollbwysig yn ystod y cyfnod cynnar i fynd i'r afael â phroblemau dybryd. Bydd hyn yn golygu y gallwn ni droi ymchwil yn effaith go iawn, sef creu swyddi, trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus, denu buddsoddiad preifat a chreu partneriaethau newydd gyda byd busnes ac elusennau."
Dyma a ddywedodd yr Athro Claire Gorrara, Deon Ymchwil ac Arloesi Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol: "Dyma ein trydydd llwyddiant o ran IAA ym maes ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol, ac yn sgîl hyn byddwn ni’n gallu datblygu ac ehangu’r effaith a’r arloesi yn y gwyddorau cymdeithasol sy'n mynd law yn llaw â’n buddsoddiad yn sbarc|spark, parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol Prifysgol Caerdydd. Mae tystiolaeth yn dangos bod pob £1 miliwn y bydd yr ESRC yn ei fuddsoddi yn arwain at greu £1 miliwn ychwanegol o gyfnewid gwybodaeth ac effaith gan bartneriaid nad ydyn nhw’n academyddion, gan gynnwys busnesau, elusennau, cynghorau lleol ac eraill."
Mae'r Athro Jenny Kitzinger, Cyd-Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil ar Gomâu ac Anhwylderau Ymwybyddiaeth, wedi arwain un o lwyddiannau eithriadol yr ESRC yng Nghaerdydd hyd yma o ran yr IAA, gan ddefnyddio cyllid i ddatblygu cwrs e-ddysgu ar-lein i roi arweiniad a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol i wella eu dealltwriaeth o Anhwylderau Estynedig o Ymwybyddiaeth.
Enillodd ei gwaith un o wobrau Effaith Polisi Cyhoeddus Rhagorol yr ESRC yn 2021.
Dyma a ddywedodd Cadeirydd Gweithredol dros dro’r ESRC, yr Athro Alison Park: "Mae'r ymchwil gymdeithasol, ymddygiadol ac economaidd rydyn ni’n ei ariannu yn ein helpu i ddeall sut rydyn ni’n byw a sut mae cymdeithas yn gweithio, gan daflu goleuni newydd ar y ffordd orau o fynd i'r afael â'n heriau mwyaf dybryd. Mae'r buddsoddiad hwn yn creu rhwydwaith o sefydliadau ymchwil sydd â chyllid pwrpasol i gefnogi a chyflymu effaith yr ymchwil hon."
Caerdydd yw un o’r 32 sefydliad ymchwil ar draws y DU fydd yn elwa ar y cyllid, gan gynnwys Prifysgol Abertawe.
Y pum Cyngor Ymchwil yw: Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC); Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol (BBSRC); Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Peirianneg a Ffisegol (EPSRC); Y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) a'r Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC).