Bwrsari arbennig i fyfyriwr peirianneg
6 Mawrth 2023
Myfyriwr o Brifysgol Caerdydd yw’r cyntaf i gael bwrsari addysg uwch arbennig gan yr Academi Beirianneg Frenhinol.
Bydd Elis Thomas o Ferthyr Tudful yn cael £15,000 dros dair blynedd, a fydd yn cael ei ariannu gan Ymddiriedolaeth Panasonic yn rhan o Brosiect Peirianneg Cymoedd Cymru.
Mae'r bwrsari newydd yn cefnogi myfyrwyr cymwys o Goleg Gwent a Choleg Merthyr Tudful wrth iddynt symud ymlaen o lefelau Safon Uwch a BTEC i astudio peirianneg ar lefel gradd mewn prifysgol yn y DU.
Dywedodd Elis, sy’n ymgymryd â blwyddyn sylfaen ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd, cyn symud ymlaen i astudio ar gyfer gradd tair-blynedd yn yr Ysgol Peirianneg: “Rwy’n falch iawn o gael y wobr hon, ac rwyf wir yn mwynhau fy mlwyddyn sylfaen yn astudio peirianneg.
“Rydych yn dysgu cymaint o bethau ym maes peirianneg, a all arwain at swyddi diddorol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld beth rwy’n ei fwynhau.”
Ac yntau’n un o gyn-ddisgyblion Ysgol Uwchradd Cyfarthfa ac yn un o fyfyrwyr Coleg Merthyr Tudful, mae Elis wedi ennill Gwobr Peiriannydd y Dyfodol Ymddiriedolaeth Panasonic yn y gorffennol.
Dywedodd Lynda Mann, Pennaeth Addysg yr Academi Beirianneg Frenhinol: “Mae Elis yn fyfyriwr peirianneg hynod gyfeillgar a rhagorol, ac rydym wrth ein boddau mai ef yw un o lysgenhadon Prosiect Peirianneg Cymoedd Cymru.
“Mae’n fodel rôl gwych ac yn ysbrydoliaeth i’n myfyrwyr, yn enwedig pan mae angen eu cael i ymddiddori mewn addysg beirianneg. Rydym mor falch o allu cydnabod gwaith caled ac ymroddiad Elis drwy roi’r wobr hon iddo.”
Prosiect hirdymor sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Panasonic yw Prosiect Peirianneg Cymoedd Cymru, ac mae’n cael ei gyflwyno gan yr Academi Beirianneg Frenhinol.
Mae’r prosiect, a lansiwyd yn 2018, yn gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd a cholegau ar draws Blaenau Gwent a Merthyr Tudful i gyfoethogi’r cwricwlwm, ennyn diddordeb ymhlith disgyblion a gwneud peirianneg go iawn yn rhan o addysg drwy weithio gyda chyflogwyr STEM lleol.
Ychwanegodd Carl Pocknell, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Panasonic: “Amcan yr Ymddiriedolaeth yw cefnogi datblygiad addysg a hyfforddiant ym maes peirianneg – rydym am newid bywydau. Mae a wnelo Prosiect Peirianneg Cymoedd Cymru â rhoi cyfleoedd i'r rhai na fyddent fel arall yn gwireddu eu potensial er mwyn gwneud gyrfa ym maes peirianneg yn bosibl.
“Ar ôl cyfarfod ag Elis, mae’n amlwg o’i frwdfrydedd a’i allu y bydd yn llwyddo wrth ddilyn gyrfa ym maes peirianneg.”