Cynfyfyrwyr o’r DU ac India’n dod yn bartneriaid at ddibenion darparu gwasanaeth profi imiwnedd
2 Mawrth 2023
Mae dau gwmni yn y DU ac India, sy’n cael eu harwain gan ddau o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, wedi dod yn bartneriaid yn eu hymgais i ddarparu cynhyrchion a gwasanaethau imiwnoleg arbenigol ledled y byd.
Cafodd y bartneriaeth rhwng ImmunoServ yng Nghaerdydd ac ImmunitasBio yn Bangalore, India, ei ffurfioli ar Ddydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth).
Cyfarfu Dr James Hindley, Prif Swyddog Gweithredol ImmunoServ, a Dr Sivasankar Baalasubramanian, Prif Swyddog Gweithredol a Sefydlydd ImmunitasBio, tra oeddent yn astudio gyda’i gilydd yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd yn 2006.
Dywedodd Dr James Hindley, Prif Swyddog Gweithredol ImmunoServ: “Er mwyn mynd i’r afael â phroblemau byd-eang ym maes gofal iechyd, rydym yn credu bod angen cydweithio’n fyd-eang. Mae ein partneriaeth strategol yn cryfhau ein hymrwymiad i weithio gyda’n gilydd. Bu i bandemig COVID-19 ein hatgoffa bod problemau byd-eang yn gofyn am atebion byd-eang. Aeth gwyddonwyr, llywodraethau a busnesau ledled y byd ati i rannu gwybodaeth a chydweithio i ategu ymdrechion ym mhobman.”
Bu i’r ddau gwmni weithio gyda’i gilydd yn ystod y pandemig, cefnogi’r ymchwil i frechlynnau, a darparu gwasanaethu profi imiwnedd yn eu priod wledydd. Y tu hwnt i’r pandemig, mae ImmunoServ ac ImmunitasBio yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu a masnacheiddio profion imiwnedd ar gyfer clefydau heintus eraill fel y ffliw, gan gynnwys canser a chlefydau awto-imiwn.
Dywedodd Dr Baalasubramanian: “Mae profion gweithrediad yr afu a phrofion gweithrediad yr arennau eisoes ar gael ym maes gofal iechyd, ond rydym yn datblygu profion gweithrediad y system imiwnedd – profion iechyd rhagfynegol sy’n rhoi gwybodaeth y gellir gweithredu arni am lawer o glefydau.”
Bu i’r ddau feddyg aros yn ffrindiau da ar ôl gadael Prifysgol Caerdydd a chychwyn ar daith entrepreneuraidd gyda’i gilydd yn 2014, a arweiniodd at sefydlu InBio India – chwaer gwmni Indoor Biotechnologies (InBio UK erbyn hyn) yn y DU.
Ers ymadael â’r busnes hwn, a ganolbwyntiodd ar alergeddau, yn 2020, mae’r ddau entrepreneur bellach yn cydweithio i ddarparu gwasanaeth profi imiwnedd ar gyfer y byd.