Ewch i’r prif gynnwys

Dyma Fy Ngwir: Llyfr Bevan i'w drafod mewn cynadleddau pleidiau

28 Chwefror 2023

Bydd casgliad newydd o ysgrifau Aneurin Bevan ar gyfer Tribune yn cael eu trafod yng nghynadleddau plaid Llafur Cymru a Phlaid Cymru fis nesaf. 

Yn cael ei barchu yng Nghymru, ac yn cael ei ddathlu ledled y DG fel un o'n diwygwyr mwyaf, roedd Bevan hefyd yn awdur toreithiog ar ystod eang o bynciau gwleidyddol ar gyfer y cylchgrawn sosialaidd o'i sefydlu ym 1937 hyd ei farwolaeth ym 1960.

Mae llyfr newydd Nye Davies, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru, yn casglu'r ysgrifau hyn sy'n adrodd hanes datblygiad syniadau Aneurin Bevan ar wrthdaro dosbarth, cyfalafiaeth, democratiaeth, a sosialaeth ddemocrataidd. Mae'r gyfrol yn cynnig cyfle newydd i fyfyrio ar etifeddiaeth sylfaenydd y GIG a pherthnasedd ei syniadau gwleidyddol i'r mudiad llafur yng Nghymru a'r DG heddiw.

Yn y cyntaf o nifer o ddigwyddiadau arfaethedig i hyrwyddo'r gyfrol, bydd Davies yn siarad yng nghynhadledd Plaid Cymru yn Llanelli ar 4 Mawrth, ochr yn ochr â'r awdur clodwiw Daniel G Williams, ac yng nghynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno ar 11 Mawrth.

Gydag etifeddiaeth Bevan wedi’i dathlu, erbyn hyn, ar draws ystod o linynnau gwleidyddol yng Nghymru, bydd y llyfr o ddiddordeb arbennig i gyfranogwyr y gynhadledd wrth iddynt fyfyrio ar ddyfodol eu pleidiau, ac ar yr heriau sy’n wynebu gweithwyr ledled Cymru a’r DG.

Rhannu’r stori hon