Ewch i’r prif gynnwys

Diwygio addysg i’r byddar – academydd y gyfraith o Gaerdydd yn cynnig argymhellion

23 Chwefror 2023

Mae academydd y gyfraith o Gaerdydd yn cynnal ymchwil i effaith adnabod iaith arwyddion ac yn edrych ar sut mae angen dull mwy cydgysylltiedig o weithredu ar draws y sector addysg.

Mae'r darlithydd yn y gyfraith, Dr Rob Wilks, yn ddefnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) Byddar ac yn addysgu'r gyfraith trwy gyfrwng BSL. Ymunodd ag Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym mis Medi 2022 ac ers hynny mae wedi cyhoeddi adroddiad, Deaf Education in Scotland and Wales, a gyd-ysgrifennwyd gyda Rachel O’Neill o Brifysgol Caeredin, sy’n cymharu ymagweddau’r Alban a Chymru at addysg i’r byddar ac agweddau at BSL.

Wrth siarad am yr adroddiad dywedodd Dr Wilks, “Gallai ymddangos yn rhyfedd fod darlithydd yn y gyfraith yn cynnal ymchwil i addysg ond mae ein gwaith, yr hyn a wnaed hyd yma a’r gwaith a wnawn yn y dyfodol, yn ymwneud i raddau helaeth ag ehangu dealltwriaeth o’r gyfraith yn y ffordd mae'n ymwneud â phobl Fyddar ac ieithoedd arwyddion.  Ar hyn o bryd mae gan y DU Ddeddf BSL (yr Alban) 2015 a Deddf BSL 2022, ac er nad oes deddf o’r fath yng Nghymru, mae BSL wedi’i chynnwys yn y Cwricwlwm newydd i Gymru.

Mae disgwrs Astudiaethau Byddar wedi dadlau ers tro bod y gymuned Fyddar yn grŵp iaith leiafrifol yn hytrach nag anabl. Fodd bynnag, yn y byd croestoriadol yr ydym yn byw ynddo nawr, mae’r ddau beth yn bosibl.”

Mae adroddiad Dr Wilks, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2022, yn adolygiad cam 2 o effaith Deddf Iaith Arwyddion Prydain (Yr Alban) 2015 a'r Cwricwlwm i Gymru ar addysg i’r byddar. Tra bo cam 1 y prosiect yn canolbwyntio ar broblemau, methiannau a llwyddiannau'r Ddeddf, nod cam 2 yw canfod a oes awydd ar lefel y llywodraeth ac awdurdodau lleol i blant byddar gael eu haddysgu naill ai mewn ysgolion cyfrwng BSL neu ddwyieithog yng Nghymru a'r Alban.

“Buom yn siarad â thrawstoriad o bobl gan gynnwys gweision sifil Llywodraethau’r Alban a Chymru, athrawon y Byddar a gweithwyr yn y trydydd sector i gael eu barn ar yr hyn ddylai ddigwydd nesaf mewn deddfwriaeth addysg i’r byddar. Rydym ni wedi gwneud sawl argymhelliad yn ein hadroddiad sy’n cynnwys ymdrechion i feithrin gallu ar gyfer BSL sy’n efelychu'r ffordd mae’r Aeleg a’r Gymraeg wedi cael eu trin mewn ysgolion a sicrhau cyllid a darpariaeth i alluogi rhieni a theuluoedd plant Byddar i gael mynediad at ddysgu drwy BSL.”

Mae cyhoeddi’r adroddiad yn arbennig o amserol gyda Chymdeithas y Byddar Prydain yn cyhoeddi archwiliad o bolisïau a dulliau gweithredu Llywodraeth Cymru ar 15 Chwefror 2023.  Mae un o'r argymhellion yn adlewyrchu adroddiad Dr Wilks: ailstrwythuro addysg i'r Byddar yn llwyr a chyflwyno cynllun BSL cenedlaethol gyda buddsoddiad ariannol i gefnogi plant a phobl ifanc Byddar,  rhieni/gwarcheidwaid plant Byddar a'r gweithlu addysg yn y tymor hir.  Ar hyn o bryd mae Dr Wilks yn gweithio ar sefydlu Partneriaeth BSL Prydain gydag amrywiol randdeiliaid o Gymru gan gynnwys sefydliadau addysg uwch a phellach, athrawon BSL, Athrawon Plant a Phobl Ifanc Byddar, er mwyn cau'r bylchau presennol mewn addysg i'r byddar.

Diddordebau ymchwil Dr Wilks yw effaith adnabod iaith arwyddion, addysg i'r byddar, gwahaniaethu ar sail anabledd a chyfraith cydraddoldeb a datblygu Theori Cyfraith y Byddar. Mae’n addysgu modiwlau cyfraith ac ymarfer busnes a chyfraith cyflogaeth ar y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol LLM yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ac mae ar gael ar gyfer goruchwylio ôl-raddedig

Rhannu’r stori hon