Fideo: Laffan yn trafod taith Wyddelig yn yr UE
20 Chwefror 2023
Traddododd yr Athro Brigid Laffan Ddarlith Flynyddol 2023 ar gyfer Cymdeithas Astudiaethau Ewropeaidd Cyfoes Iwerddon (IACES).
Cyflwynodd Giada Lagana, darlithydd sy'n gysylltiedig â Chanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, y ddarlith yn ei rôl fel Llywydd IACES.
Roedd yr Athro Laffan, a roddodd ddarlith flynyddol glodwiw ar gyfer Canolfan Llywodraethiant Cymru yn flaenorol, yn trafod 50 mlynedd o aelodaeth Iwerddon o'r Undeb Ewropeaidd, gan fyfyrio ar berthynas ryfeddol a thrawsnewidiol y wladwriaeth â gweddill yr UE.
Mae fideo o'r ddarlith ar gael isod.