Bydd myfyriwr doethurol yn cystadlu yng nghystadleuaeth STEM for BRITAIN
20 Chwefror 2023
Bydd ymgeisydd PhD yn y flwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd yn cyflwyno ei ymchwil gerbron ASau mewn cystadleuaeth wyddonol ac arddangosfa bosteri o bwys yn San Steffan.
Mae Tim Ostler, sydd ar hyn o bryd wrthi’n gorffen ei draethawd ymchwil yn yr Ysgol Mathemateg, wedi cael ei ddewis i gystadlu yn rownd derfynol STEM for BRITAIN 2023 yn San Steffan. Mae’r gystadleuaeth yn rhan o Wythnos Wyddoniaeth Prydain ym mis Mawrth.
Symudodd Tim, sy’n 24 oed ac o Southampton, i Gaerdydd ar gyfer ei radd israddedig yn 2016. Er ei fod eisiau dilyn gyrfa feddygol yn wreiddiol, dechreuodd ymddiddori mewn mathemateg gymhwysol gan ddechrau PhD ym maes bioleg fathemategol.
Dyma a ddywedodd: "Rwy’n llawn cyffro wrth feddwl am gymryd rhan yng nghystadleuaeth STEM for BRITAIN . Dyma gyfle imi ddangos y cyfan rwy wedi’i gyflawni yn ystod fy astudiaethau yma yng Nghaerdydd."
Mae ymchwil Tim, a ariennir ar y cyd gan Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth 2 (KESS 2) a Chlinig Menywod Llundain (LWC), yn defnyddio mathemateg a yrrir gan ddata i fodelu ac optimeiddio tair agwedd allweddol ar Ffrwythloni In Vitro (IVF) – y driniaeth sylfaenol ar gyfer anffrwythlondeb yn fyd-eang.
Mae’r prosiect yn rhan o ymchwil ehangach ar y cyd ar fodelu IVF rhwng Dr Thomas Woolley a Dr Katerina Kaouri yn yr Ysgol Mathemateg, a’r Athro Karl Swann yn Ysgol y Biowyddorau. Ynghyd â goruchwyliwr diwydiannol yn LWC, y pedwar hyn fydd tîm goruchwylio PhD Tim.
"Rydyn ni wedi modelu’r broses rhewi a dadmer ym maes Trosglwyddo Embryonau Rhewedig i ddeall yn well yr heriau ymarferol ynghlwm wrth bacio a storio wyau ac embryonau. Ar ben hynny, rydyn ni wedi datblygu dulliau i dynnu gwybodaeth o ddelweddau am iechyd yr wyau a'r embryonau. Yn drydydd, rydyn ni wedi datblygu model dysgu peirianyddol sy’n adnabod nodweddion delweddau embryonau a fydd hwyrach yn rhagweld beichiogrwydd."
"Mae gan IVF rôl bwysig iawn yn y gymdeithas, felly rwy’n edrych ymlaen at ddweud wrth bawb yn STEM for Britain am y cynnydd rydyn ni wedi’i wneud."
Mae STEM for BRITAIN, o dan gadeiryddiaeth Stephen Metcalfe AS a gofal y Pwyllgor Seneddol a Gwyddonol, wedi’i gynnal ers 1997 a’i nod yw helpu aelodau’r ddau Dŷ yn San Steffan i ddeall y gwaith ymchwil rhagorol sy’n cael ei wneud ym mhrifysgolion y DU gan ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.
Dyma a ddywedodd Dr Katerina Kaouri, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd: "Mae'n eithaf anarferol i fyfyrwyr ddilyn astudiaeth ddoethurol yn syth ar ôl cwblhau eu gradd israddedig. Mae Tim wedi cyflawni hyn ond ar ben hynny mae wedi ffynnu, yn enwedig o dan amgylchiadau anodd drwy gydol pandemig Covid-19."
"Rwy’n dymuno pob lwc iddo!"
Rhoddir gwobrau am y posteri a gyflwynir ym mhob disgyblaeth sy'n cyfleu orau gwyddoniaeth, peirianneg neu fathemateg i gynulleidfa leyg.
Dyfernir Medal San Steffan i’r enillydd cyffredinol er cof am y diweddar Dr Eric Wharton, a wnaeth gymaint i greu’r gystadleuaeth yn ddigwyddiad rheolaidd yn y calendr Seneddol.
Ychwanegodd Dr Thomas Woolley, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd: "Fe wnes i gymryd rhan mewn STEM for BRITAIN yn ystod fy PhD ac yn ei gofio'n dda.
"Yn ogystal â chyflwyno ymchwil arloesol gerbron yr ASau, mae’r gystadleuaeth yn gyfle gwych i rwydweithio gydag ystod eang o sefydliadau a sefydliadau gwyddonol, peirianneg a mathemateg pwysig sy’n cefnogi’r digwyddiad."
"Mae pawb yn yr Ysgol o’ch plaid chi!"
Bydd STEM for BRITAIN yn cael ei chynnal yn San Steffan ddydd Llun 6 Mawrth 2023.