Astudiaeth newydd yn nodi genyn sy’n cynyddu’r risg o annormaleddau yn rhythm y galon
20 Tachwedd 2022
![Research Team](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/2705279/image-20221117-103257-cd4d9010.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cysylltu rhan goll o DNA, a genyn penodol ynddi, â risg uwch o ddatblygu annormaledd yn rhythm y galon.
Mae astudiaeth newydd gan ymchwilwyr yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol, gan gynnwys yr Ysgol Seicoleg, wedi nodi mai unigolion nad oes ganddynt ddarn bach o gromosom X (Xp22.31) sy’n datblygu annormaleddau yn rhythm y galon fel arfer. Mae ymchwil bellach wedi awgrymu y gall genyn STS (steroid sylffatas) fod yn ffactor arbennig o bwysig sy’n cynyddu’r risg. Mae’r datblygiad cyffrous hwn yn cynnig gobaith o nodi annormaleddau yn rhythm y galon yn gynnar, a hynny drwy ddefnyddio technoleg glyfar y gellir ei gwisgo i sgrinio'r rhai heb Xp22.31 sydd fwyaf mewn perygl.
A yw diffyg Xp22.31 yn niweidiol?
Esboniodd Georgina Wren, myfyriwr PhD a phrif ymchwilydd yr astudiaeth: “Nid yw rhai diffygion genynnol yn achosi llawer o niwed. Gall eraill gael effaith sylweddol ar y corff, sy’n arwain at nifer o broblemau seicolegol a chorfforol. Mae Xp22.31 yn cynnwys genyn STS, sy'n chwarae rhan yn y gwaith o greu celloedd y croen.
“Mae diffyg Xp22.31, gan gynnwys genyn STS, yn achosi cyflyrau ar y croen fel ichthyosis sy’n gysylltiedig ag X, lle nad yw’r celloedd ar haen allanol y croen yn gwahanu’n iawn ac yn achosi cennau.”
Mae'r astudiaeth newydd hon, sydd wedi’i hariannu gan yr Ysgol Seicoleg, hefyd yn dangos bod oedolion ag ichthyosis sy’n gysylltiedig ag X mewn perygl uwch o ddatblygu annormaledd yn rhythm y galon yn ogystal â chydafiacheddau penodol, fel problemau perfeddol, asthma ac anemia.
Ffactorau risg ac ymyriadau ar gyfer annormaleddau yn rhythm y galon
Edrychodd y tîm ar gofnodion meddygol hanner miliwn o unigolion canol oed, gan gynnwys rhai unigolion sydd wedi cael diagnosis o ffibriliad atrïaidd, sef math o annormaledd yn rhythm y galon sy’n achosi curiad calon afreolaidd, ac yn aml, gyflym. Ymchwiliodd y tîm ymhellach i ffactorau risg ar gyfer annormaleddau yn rhythm y galon a chydafiacheddau, a hynny drwy ofyn i ddynion a menywod nad oes ganddynt Xp22.31, yn ogystal â rhieni bechgyn sydd wedi cael diagnosis o ichthyosis sy’n gysylltiedig ag X, gwblhau holiadur ar-lein.
Gwelwyd bod diffyg Xp22.31 yn cynyddu’r risg o ddioddef o annormaledd yn rhythm y galon, yn enwedig o dan amodau sy’n achosi straen; roedd episodau o annormaledd yn rhythm y galon yn tueddu i ymateb yn dda i ymyriadau a datrys yn gyflymach.
Beth nesaf?
Wrth drafod effaith yr astudiaeth yn y dyfodol, dywedodd Wren: “Roedd mwyafrif llethol yr unigolion a gymerodd ran yn yr astudiaeth hon o blaid gael eu sgrinio er mwyn atal annormaleddau yn rhythm y galon, a all hyrwyddo’r gwaith o nodi annormaleddau’n gynnar a chefnogi dulliau hirdymor o reoli’r cyflwr.”
Mae’r ymchwil hon yn addawol dros ben ar gyfer ymchwilio i ddulliau o sgrinio’r galon, sef defnyddio technoleg y gellir ei gwisgo (oriawr glyfar), yn ogystal â chadarnhau a yw rhythm y galon yn gysylltiedig â mesurau ymddygiadol a gwybyddol penodol.
Darllenwch y papur llawn: Wren et al. (2022) ‘Characterising heart rhythm abnormalities associated with Xp22.31 deletion’ – Cyfnodolyn Geneteg Feddygol